Eisteddfod Genedlaethol Cymru Penbedw 1917

Cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol Cymru 1917 yn nhref Penbedw, Cilgwri (yn Swydd Gaer ar y pryd).

Eisteddfod Genedlaethol Cymru Penbedw 1917
Enghraifft o'r canlynolun o gyfres reolaidd o wyliau Edit this on Wikidata
Dyddiad1917 Edit this on Wikidata
CyfresEisteddfod Genedlaethol Cymru Edit this on Wikidata
LleoliadParc Penbedw Edit this on Wikidata
Gwladwriaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
RhanbarthPenbedw Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Cofgolofn ym Mharc Penbedw i nodi ymweliad yr Eisteddfod

Gelwir yr Eisteddfod hon yn aml yn "Eisteddfod y Gadair Ddu" am fod enillydd y gadair Ellis Humphrey Evans wedi ei ladd rai wythnosau ynghynt ar faes y gad yn Fflandrys ac o ganlyniad taenwyd gorchudd du dros y gadair wag. Enw barddol Ellis Evans oedd Hedd Wyn.

Dywedodd Dyfed, Archdderwydd yr Eisteddfod honno ar y dydd:

Y delyn a ddrylliwyd ar ganol y wledd;
Mae'r ŵyl yn ei dagrau a'r bardd yn ei fedd.

Prif Gystadlaethau
Cystadleuaeth Teitl y Darn Ffugenw Enw
Y Gadair Yr Arwr Fleur-de-lis Ellis Humphrey Evans (Hedd Wyn)
Y Goron Pwyll Pendefig Dyfed - William Evans (Wil Ifan)

Gweler hefyd golygu

  Eginyn erthygl sydd uchod am Gymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.