Eisteddfod Genedlaethol Cymru Treffynnon 1869
Cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol Cymru 1869 yn Nhreffynnon, Sir y Fflint, ar 31 Awst-1 Medi 1869, ddydd Mawrth a dydd Mercher.[1] Roedd Eisteddfod Genedlaethol i fod ei chynnal yn Aberhonddu y flwyddyn hon ond roedd y sefydliad wedi mynd i ddyled o £1276 17s 4c (tua £131,428 ym mhrisiau 2016) a penderfynodd y pwyllgor lleol ohirio yr eisteddfod tan 1870.[2][3] Yn hytrach cynhaliwyd "Eisteddfod Goronog" yn Nhreffynnon dros ddeuddydd gyda'r elw i'w drosglwyddo i'r Eisteddfod Genedlaethol. Codwyd pabell oedd yn ddigon i ddal 1,100 o bobl a roedd cyngerdd ar y nos Fawrth.
Enghraifft o'r canlynol | un o gyfres reolaidd o wyliau |
---|---|
Dyddiad | 1869 |
Cyfres | Eisteddfod Genedlaethol Cymru |
Lleoliad | Treffynnon |
Gwladwriaeth | y Deyrnas Unedig |
Cynigiwyd Y Goron am awdl ar y testun "Milflwyddiant". Derbyniwyd saith cyfansoddiad a traddodwyd beirniadaeth Gwilym Hiraethog gan Pedr Mostyn. Cyhoeddwyd fod "Galarwr gwyl ei eiriau" yn deilwng a datgelwyd mai'r Parch Richard Mawddwy Jones oedd y bardd buddugol.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Yr Eisteddfod Genedlaethol - Seren Cymru". William Morgan Evans. 1863-09-11. Cyrchwyd 2016-08-13.
- ↑ "ABERHONDDUI - Baner ac Amserau Cymru". Thomas Gee. 1869-04-07. Cyrchwyd 2016-08-16.
- ↑ "YR EISTEDDFOD GENEDLAETHOL - Y Dydd". William Hughes. 1869-05-21. Cyrchwyd 2016-08-16.