Eisteddfod Genedlaethol Cymru Wrecsam 2025
Cynhelir Eisteddfod Genedlaethol Cymru Wrecsam 2025 yn Wrecsam rhwng Awst 2-9, 2025.
← Blaenorol | |
Cynhaliwyd | 2–9 Awst 2025 |
---|---|
Archdderwydd | Mererid Hopwood |
Yng Ngorffennaf 2022, cytunodd cynghorwyr Wrecsam i wahodd Eisteddfod Genedlaethol 2025 i'r sir.[1] Ar 1 Awst 2023 cyhoeddwyd y bydd Wrecsam yn gartref i’r Eisteddfod Genedlaethol yn 2025.
Cyhoeddwyd y brifwyl yn ffurfiol ar 27 Ebrill 2024 pan wnaeth 300 o grwpiau ac unigolion orymdeithio o Gampws Iâl, Coleg Cambria i'r seremoni yn neuadd y ddinas yn Wrecsam.
Y Maes golygu
Cynhaliwyd yr ŵyl ddiwethaf yn yr ardal yn 2011, ar dir amaethyddol i’r gorllewin o ganol y ddinas, ac mae trafodaethau’n parhau rhwng yr Eisteddfod a’r Cyngor ynglŷn â’i hunion leoliad yn 2025.[2].
Cyfeiriadau golygu
- ↑ Wrecsam i wahodd Eisteddfod Genedlaethol 2025 , BBC Cymru Fyw, 12 Gorffennnaf 2022. Cyrchwyd ar 14 Awst 2023.
- ↑ "Eisteddfod 2025 i'w chynnal yn Wrecsam". Eisteddfod Genedlaethol. 2023-08-01. Cyrchwyd 2023-08-14.