Aled Roberts

gwleidydd a Chomisiynydd y Gymraeg, o ardal Wrecsam

Gwleidydd a chyfreithiwr o Gymru oedd Aled Roberts (17 Mai 196213 Chwefror 2022). Roedd yn aelod o'r Democratiaid Rhyddfrydol. Cafodd ei ethol i Gyngor Bwrdeistref Wrecsam yn 1991, cyn cael ei wneud yn faer y fwrdeistref yn 2003, ac yna arweinydd y cyngor yn 2005.[1] Roedd yn Aelod o'r Cynulliad dros Ranbarth Gogledd Cymru rhwng 6 Mai 2011 a 6 Mai 2016. Roedd hefyd wedi gweithio fel ymgynghorydd i Lywodraeth Cymru ar ddatblygu cynlluniau addysg Gymraeg. Fe'i benodwyd yn Gomisiynydd y Gymraeg yn 2019.

Aled Roberts
Ganwyd17 Mai 1962 Edit this on Wikidata
Rhosllannerchrugog Edit this on Wikidata
Bu farw13 Chwefror 2022 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethgwleidydd, Comisiynydd y Gymraeg, cyfreithiwr Edit this on Wikidata
SwyddAelodau 4ydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru Edit this on Wikidata
Plaid Wleidyddoly Democratiaid Rhyddfrydol Edit this on Wikidata

Gyrfa gwleidyddol

golygu

Cafodd ei ethol i Gyngor Sir Wrecsam yn 1991, gan gynrychioli ward Rhosllannerchrugog a Phonciau. Ef oedd Maer Wrecsam yn 2003-2004. Fis Mawrth 2005, daeth yn arweinydd Cyngor Sir Wrecsam wedi i'w ragflaenydd Neil Rogers (aelod o'r Blaid Lafur) ymddeol.[2]

Cafodd ei ethol i Senedd Cymru (Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar y pryd) yn etholiadau 2011. Yn fuan wedi iddo gael ei ethol, daeth i'r amlwg ei fod yn aelod o Dribiwnlys Prisio Cymru - corff nad oedd gan Aelodau'r Cynulliad yr hawl i fod yn rhan ohono ers 2010.[3] Cafodd ei ddiarddel. Roedd Aled Roberts wedi cyfeirio at ganllawiau'r Comisiwn Etholiadol yn Gymraeg, ond roedd y Comisiwn wedi methu â diweddaru'r fersiwn Cymraeg i gynnwys y Tribiwnlys Prisio.[4][5] Ar 6 Gorffennaf 2011, cynhaliwyd pleidlais i'w adfer i'r Cynulliad: y canlyniad oedd 30 o blaid, 20 yn erbyn, a 3 yn ymatal, felly cafod ei adfer yn Aelod Cynulliad[6]. Ni chafodd John Dixon, aelod arall a gafodd ei wahardd ar yr un pryd, ei adfer, ac fe gafodd Eluned Parrot ei chyfethol yn ei le - roedd statws canllawiau Cymraeg y Comisiwn Etholiadol yn ganolog i'r penderfyniad yn achos Aled Roberts.

Collodd ei sedd yn Etholiad y Cynulliad 2016.

Comisiynydd y Gymraeg

golygu

Ar 1 Ebrill 2019, fe'i penodwyd yn Gomisiynydd y Gymraeg, gan ddilyn Meri Huws. Treuliodd y tri mis cyntaf yn dod i adnabod anghenion Cymry ledled y wlad, er mwyn deall eu profiadau o ddefnyddio'r Gymraeg ac i ddeall beth sy'n cymell pobl sy'n medru siarad Cymraeg i ddefnyddio'r iaith, neu beidio gwneud hynny, yn eu bywydau bob dydd.

Fe ges i fy magu ar aelwyd Gymraeg ei hiaith yn Rhos; ond Saesneg oedd iaith fy addysg. Er bod fy nghriw ffrindiau yn gallu siarad Cymraeg, Saesneg oedden ni'n ei siarad efo'n gilydd. Nid tan imi ddod adref am y Nadolig ar ôl treulio tymor cyntaf ym Mhrifysgol Aberystwyth y sylwais ein bod ni'n colli allan ar gymaint drwy beidio â siarad Cymraeg efo'n gilydd; ac felly mi wnaethon ni benderfyniad un noson i droi i siarad Cymraeg efo'n gilydd o hynny ymlaen. Doedd hi ddim yn hawdd newid, ac mi gymerodd ychydig fisoedd i ni ddod i arfer; ond mi oedd hi'n bosib, a Chymraeg ydyn ni wedi ei siarad efo'n gilydd byth wedyn.[7]

Bywyd personol a marwolaeth

golygu
Fideo o Aled Roberts yn disgrifio ei swydd gyntaf

Magwyd Aled yn Rhosllannerchrugog ac roedd yn byw yno gyda'i wraig a'i ddau fab. Mynychodd Ysgol y Ponciau, Ysgol y Grango ac Ysgol Rhiwabon cyn astudio'r gyfraith ym Mhrifysgol Aberystwyth. Roedd yn cymryd rhan weithgar yn ei gymuned, gan fod yn ysgrifennydd Capel Ebeneser a'r Stiwt.[8]

Bu farw ar 13 Chwefror 2022 yn 59 mlwydd oed ar ôl salwch byr.[9] Cafodd teyrngedau iddo ar draws llawr y Senedd, gan Gymdeithas yr iaith, ei gydweithwyr a'i ffrindiau.[10]

Gwaddol

golygu

Yn dilyn marwolaeth Aled Roberts o ganser yn 2022, bu i'r Ganolfan Dysgu Cymraeg Cenedlaethol ac elusen Macmillan dderbyn nawdd er cof amdano i greu pecyn o adnoddau Dysgu Cymraeg. Ar 14 Mai 2024 cyhoeddodd Dona Lewis, Prif Weithredwr y Ganolfan, bod y Gronfa gwerth £28,000 wedi ei sefydlu yn enw Aled Roberts er mwyn hybu gofal diwedd oes yn Gymraeg.[11]

Pecyn Iaith Aled Roberts

golygu

Bydd y pecyn yn cynnwys cwrs hunan-astudio byr, sy’n cyflwyno geiriau ac ymadroddion addas i weithwyr gofal lliniarol a gofal diwedd oes, a chwrs preswyl Dysgu Cymraeg er mwyn codi hyder staff.

Galluogodd y gronfa i'r Ganolfan Dysgu Cymraeg greu pecyn Dysgu Cymraeg, wedi ei deilwra yn arbennig ar gyfer gweithwyr gofal lliniarol a gofal diwedd oes, fel y gallan nhw gynnig geiriau o gysur i gleifion a’u teuluoedd ar amser anodd.

Bydd hefyd yn cynnig cwrs codi hyder preswyl, blynyddol yn Nant Gwrtheyrn wedi ei deilwra yn arbennig ar gyfer y maes gofal lliniarol a gofal diwedd oes.[12]

Tlws Coffa Aled Roberts

golygu

Yn dilyn marwolaeth cynamserol Aled, sefydlwyd Tlws Coffa Aled Roberts i gydnabod unigolyn sydd wedi gwneud cyfraniad gwirfoddol nodedig i’r sector Dysgu Cymraeg. Enillydd cyntaf y Tlws oedd Gwilym Roberts o Gaerdydd am ei waith yn dysgu Cymraeg yn y brifddinas a thu hwnts ers degawdau.[12][13]

Cyfeiriadau

golygu
  1. Comisiynydd y Gymraeg Aled Roberts wedi marw yn 59 oed , BBC Cymru Fyw, 14 Chwefror 2022.
  2. "Meeting of Council on Wednesday, 9th March, 2005". moderngov.wrexham.gov.uk (yn Saesneg). 2005-03-09. Cyrchwyd 2024-06-09.
  3. "Atal dau AC – tros broblem 'dechnegol'". Golwg360. 2011-05-17. Cyrchwyd 2024-06-09.
  4. "Aled Roberts wedi gwneud 'popeth o fewn ei allu'". Golwg360. 2011-07-05. Cyrchwyd 2024-06-09.
  5. "Adferwch Aled Roberts ac ymddiheurwch | Cymdeithas yr Iaith Gymraeg". cymdeithas.cymru. Cyrchwyd 2024-06-09.
  6. "https://busnes.senedd.cymru/ieListDocuments.aspx?CId=153&MId=342&Ver=4". Senedd Cymru. 6 Gorffennaf 2011. Cyrchwyd 9 Mehefin 2024. External link in |title= (help)
  7. comisiynyddygymraeg.cymru; gwefan Llywodraeth Cymru; Archifwyd 2019-05-18 yn y Peiriant Wayback adalwyd 16 Mai 2019.
  8. http://www.aledroberts.org.uk/?page_id=1288 Archifwyd 2016-03-04 yn y Peiriant Wayback Gwefan swyddogol Aled Roberts
  9. "Aled Roberts, Comisiynydd y Gymraeg, wedi marw yn 59 oed". Golwg360. 2022-02-14. Cyrchwyd 2022-02-14.
  10. "Teyrngedau i Aled Roberts, Comisiynydd y Gymraeg a "rhyddfrydwr ymroddedig"". Golwg360. 2022-02-14. Cyrchwyd 2022-02-14.
  11. "Mae cronfa gwerth £28,000 wedi ei sefydlu yn enw y diweddar Aled Roberts, cyn gomisiynydd y Gymraeg. Nod y gronfa yw hybu gofal diwedd oes yn Gymraeg". BBC Radio Cymru. 14 Mai 2024.
  12. 12.0 12.1 "Cronfa goffa Aled Roberts". Y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol. 14 Mai 2024.
  13. "Gwilym Roberts o Gaerdydd yn ennill Tlws Coffa Aled Roberts". Y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol. 14 Mai 2024.

Dolenni allanol

golygu