Eisteddfod Genedlaethol Cymru yr Wyddgrug 1873
(Ailgyfeiriad o Eisteddfod Genedlaethol Yr Wyddgrug 1873)
Cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol Cymru 1873 yn yr Wyddgrug, Sir y Fflint. Roedd yn Eisteddfod answyddogol gyda'r rhan fwyaf o gystadleuwyr o'r Gogledd.
Enghraifft o'r canlynol | un o gyfres reolaidd o wyliau |
---|---|
Dyddiad | 1873 |
Cyfres | Eisteddfod Genedlaethol Cymru |
Lleoliad | Yr Wyddgrug |
Gwladwriaeth | y Deyrnas Unedig |
Ymwelodd y Prif Weinidog ar y pryd, Gladstone, a dywedodd ei fod yn credu fod diwylliant Cymraeg yn rhywbeth gwerth chweil. Yn yr Eisteddfod hon sefydlwyd pwyllgor i sefydlu llyfrgell genedlaethol yng Nghymru.
Enillodd Rowland Williams Y Gadair. Enillodd Peter Maelor Evans wobr am y llyfr Cymraeg gorau ei ddiwyg, ar gyfer cyfrol o bregethau Henry Rees.
Gweler hefyd
golygu- Eisteddfod Genedlaethol Cymru – hanes yr Eisteddfod Genedlaethol
- Eisteddfod Genedlaethol Cymru yr Wyddgrug – achlysuron eraill pan gynhaliwyd yr Eisteddfod yn yr Wyddgrug
Dolenni allanol
golygu- [1] Archifwyd 2007-09-28 yn y Peiriant Wayback Llun y Bardd yn ei gadair gyda dynion eraill ar wefan Archifau Sir Fflint.
- [2] Archifwyd 2007-09-28 yn y Peiriant Wayback Llun Côr yr Eisteddfod