Eithriadolaeth Americanaidd

Athroniaeth wleidyddol, ideoleg, neu feddylfryd cenedlaetholgar sy'n tybio bod Unol Daleithiau America yn wahanol i wledydd eraill yn ei hanfod yw eithriadolaeth Americanaidd. Mae'n seiliedig ar y syniad bod sefydlu'r Unol Daleithiau yn ddigwyddiad hanesyddol unigryw ac yn gwahaniaethu'r genedl Americanaidd oddi ar hen genedl-wladwriaethau Ewrop. Dywed bod cyfundrefn wleidyddol, gwerthoedd dinesig, ac hanes cymdeithasol yr Unol Daleithiau yn rhagori ar wledydd eraill ac yn ffurfio gwareiddiad arbennig ynddo'i hun. Mae'n agwedd gyffredin o genedlaetholdeb Americanaidd ac yn aml yn gysylltiedig ag "Americaniaeth", sef gwerthoedd gwladgarol neilltuol yr Americanwyr.

Mae esboniadau o eithriadolaeth Americanaidd yn amrywio, ond fel arfer yn dibynnu ar fyth cenedlaethol 1776: arwyddo Datganiad Annibyniaeth yr Unol Daleithiau gan y Tad-Sefydlwyr a'r rhyfel annibyniaeth. Gellir hefyd tynnu ar bwysigrwydd y gororwlad a datblygiad tiriogaethol i'r gorllewin; hanes ymfudo i'r Unol Daleithiau a'r tawddlestr; a'r Breuddwyd Americanaidd, ethos cenedlaethol sy'n mynnu bod rhyddid economaidd y wlad yn galluogi mudoledd cymdeithasol ar raddfa nad sy'n bosib mewn gwledydd eraill. Yn ogystal â'r Sefydlwyr a'r chwyldroadwyr gweriniaethol, dyrchefir nifer o gymeriadau o arloeswyr a setlwyr yn arwyr cenedlaethol: y Tadau Pererin, ffermwyr a helwyr y gorllewin, a Johnny Reb a Billy Yank. Weithiau caiff eithriadolaeth Americanaidd ei chyfuno â chredoau Cristnogol am ragluniaeth neu genhadaeth genedlaethol. Er enghraifft, defnyddid y syniad o Dynged Amlwg yn y 19g i gyfiawnhau ehangiad tiriogaethol i'r gorllewin

Mae nifer o sylwebwyr yn beirniadu eithriadolaeth Americanaidd am fod yn ffurf drahaus a siofinaidd ar genedlaetholdeb sydd yn anwybodus o hanesion gwledydd eraill ac yn anwybyddu ffaeleddau yn hanes yr Unol Daleithiau. Mae eithriadolaeth yn dibynnu ar honiadau nas profir, ac wedi ei defnyddio i gyfiawnhau cwricwla hanes sy'n trwytho disgyblion a myfyrwyr mewn gwladgarwch. Mae dadansoddiadau cymharol gan hanesyddion cymdeithasol wedi dadbrofi rhai o haeriadau'r eithriadolwyr, er enghraifft drwy ddangos nad oedd cyfraddau mudoledd economaidd-gymdeithasol yn yr Unol Daleithiau yn wahanol iawn i'r cyfraddau yn Ewrop yn ystod oes diwydiannu.[1]

Cyfeiriadau golygu

  1. Peter N. Stearns, "American Exceptionalism" yn Encyclopedia of Social History, golygwyd gan Peter N. Stearns (Efrog Newydd: Garland Publishing, 1994), tt. 33–34.

Darllen pellach golygu

  • Byron E. Shafer (gol.), Is America Different? A New Look at American Exceptionalism (Rhydychen: Gwasg Prifysgol Rhydychen, 1991).
  • William V. Spanos, American Exceptionalism in the Age of Globalization: The Specter of Vietnam (Albany, Efrog Newydd: State University of New York Press, 2008).