Grŵp → 14
↓ Cyfnod
2 6
C
3 14
Si
4 32
Ge
5 50
Sn
6 82
Pb
7 114
Uuq

Grŵp o un-deg-pedwar elfen yn y tabl cyfnodol ydy Grŵp 14, neu'r grŵp carbon. Yn nhrefn safonnol IUPAC mae grŵp 14 yn cynnwys: carbon (C), silicon (Si), germaniwm (Ge), tun (Sn), plwm (Pb) ac ununcwadiwm (Uuq).

Mae IUPAC yn ei alw'n swyddogol yn Grŵp 14. Yr hen enw oedd Grŵp IVB a Grŵp IVA.[1] Arferid galw'r grŵp, cyn hynny, yn "y tetrels" (o'r Groeg tetra, sef pedwar).

Mae carbon, silicon a germaniwm yn fetaloidau ac mae tun a phlwm yn fetalau tlawd. Ni wyddom fawr ddim am ununcwadiwm, fodd bynnag.

Mae patrwm yr electronnau'n rhwng aelodau unigol y teulu yn debyg iawn, yn enwedig ar du allan y gragen, ac oherwydd hyn mae eu hymddygiad cemegol yn debyg i'w gilydd:

Z Elfen Nifer yr electronnau
6 carbon 2, 4
14 silicon 2, 8, 4
32 germaniwm 2, 8, 18, 4
50 tun 2, 8, 18, 18, 4
82 plwm 2, 8, 18, 32, 18, 4
114 ununcwadiwm 2, 8, 18, 32, 32, 18, 4

Mae gan bob elfen o'r teulu hwn bedward electron yn yr haen allanol, sef yr haen egni. Yr orbital oaf, gan bob un o'r elfennau hyn, ydy'r orbit atomig, p2. Yn y rhan fwyaf o achosion mae'r elfennau'n rhannu eu helectronnau. Mae'r duedd i golli electronnau'n cynyddu wrth i faint yr atom gynyddu, ac wrth i'r rhif atomig godi.

Mae carbon yn ffurfio ionau negatif ar ffurf ionau carbid (C4−). Mae silicon a germaniwm ill dau yn fetaloidau, a phob un yn ffurfio ionau +4. Mae tun a phlwm yn fetalau ac mae ununcwadiwm yn fetel ymbelydrol, synthetig gydag oes fer. Gall tun a phlwm ffurfio ionau +2.

Ar wahân i germaniwm ac ununcwadiwm mae pob un o'r elfennau hyn yn eitha cyffredin mewn bywyd pob dydd. Mae'n nhw, fodd bynnag, yn brin, ar wahân i garbon a silicon. Mae pob planhigyn ac anifail wedi'i wneud allan o garbon, ac mae tywod y traeth yn llawn silica.

Mae tun a phlwm yn gymharol brin, ond yn elfennau amlwg mewn bywyd pob dydd gan eu bod yn hynod ddefnyddiol. Mae germaniwm, fodd bynnag yn hynod brin.

Cyfeiriadau golygu