Tywysog neu bendefig o'r Hen Ogledd oedd Elidir Mwynfawr ap Gwrwst. Yn Nhrioedd Ynys Prydain roedd yn berchen ar farch o'r enw "Du y Moroedd", ac roedd Elidir a'i wraig Eugrain ferch Maelgwn Gwynedd ymhlith y "saith a hanner" o bobl oedd ar gefn y ceffyl pan nofiodd o Benllech Elidir yn yr Hen Ogledd i Benllech Elidir ar Ynys Môn (efallai Benllech heddiw).

Elidir Mwynfawr
Enghraifft o'r canlynolbod dynol Edit this on Wikidata

Yn Llyfr Du'r Waun, dywedir i Elidir gael ei ladd yn "Aber Meuhedud" yn Arfon, ac i nifer o Wŷr y Gogledd, yn cynnwys Clydno Eidyn, Nudd Hael, Mordaf Hael a Rhydderch Hael arwain byddin i Arfon i geisio dial. Ceir cyfeiriad ato hefyd yn y testun achyddol Bonedd Gwŷr y Gogledd.

Yn draddodiadol, enwyd y mynydd Elidir Fawr ar ei ôl.

Llyfryddiaeth

golygu
  • Peter C. Bartrum (1993) A Welsh classical dictionary (Llyfrgell Genedlaethol Cymru) ISBN 0-907158-73-0