Elin Manahan Thomas
Soprano o Gymru yw Elin Manahan Thomas.
Elin Manahan Thomas | |
---|---|
Ganwyd | 1977 Abertawe |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | canwr opera |
Math o lais | soprano |
Cafodd ei geni a'i magu yn Abertawe a derbyniodd ei haddysg yn Ysgol Gyfun Gŵyr. Enillodd ysgoloriaeth gorawl i Goleg Clare, Caergrawnt lle derbyniodd radd ddosbarth cyntaf mewn Astudiaethau Celtaidd, Eingl-Sacsoneg a Norseg, cyn mynd ati i gwblhau MPhil.
Ar ôl iddi gael clyweliad gan Syr John Eliot Gardiner, ymunodd â Chôr Monteverdi ac yn y flwyddyn 2000 canodd lawer o Bererindod Bach Cantata. Yn 2001 symudodd i Lundain i wneud cwrs ôl-radd mewn astudiaethau lleisiol yng Ngholeg y Brenin, Llundain, gan ganu gyda The Sixteen, Polyphony, Cantorion Caergrawnt a'r Consort Gabrieli yn ogystal â pharhau â'i gyrfa bersonol. Hi yw'r gantores gyntaf erioed i recordio 'Alles mit Gott' gan Johann Sebastian Bach, awdl benblwydd a ysgrifennwyd yn 1713 ac a ddarganfuwyd yn 2005. Derbyniodd ganmoliaeth fawr am ei recordiad o 'Pie Jesu' ar recordiad Naxos o Requiem Rutter.