Elin Wägner
Ffeminist a swffragét o Sweden oedd Elin Wägner (16 Mai 1882 - 7 Ionawr 1949) a oedd yn newyddiadurwr, yn berson cyhoeddus, yn ecolegydd cynnar ac yn heddychwraig. Fe'i derbyniwyd yn rhan o Academi Sweden yn 1944.
Elin Wägner | |
---|---|
Ganwyd | 16 Mai 1882 Lund Cathedral parish |
Bu farw | 7 Ionawr 1949 Berg parish |
Dinasyddiaeth | Sweden |
Galwedigaeth | newyddiadurwr, llenor, ymgyrchydd dros bleidlais i ferched |
Swydd | seat 15 of the Swedish Academy |
Tad | Sven Wägner |
Priod | John Landquist |
Gwobr/au | Prif Gwobr Samfundet De Ni |
Ganed Elin Matilda Elisabet Wägner yn Lund yn ne Sweden ar 16 Mai 1882 a bu farw yn Kronoberg ac fe'i claddwyd ym Mynwent Norra.
Roedd yn ferch i brifathro ysgol, a phan oedd yn dair oed, bu farw ei mam. Bu'n briod i John Landquist.[1][2][3][4][5][6][7][8]
Hawliau merched
golyguSefydlodd Rädda Barnen, sy'n cyfateb i Gynghrair Rhyngwladol Save the Children, ac am ddatblygu Ysgol y Dinesydd Benywaidd yn Fogelstad, ble dysgai hawliau sifil, fel pwnc. Mae llyfrau ac erthyglau Wägner yn canolbwyntio ar bynciaun ymwneud â menywod, hawliau sifil, pleidleisiau (etholfraint) i fenywod, y mudiad heddwch, lles, a llygredd amgylcheddol. Ynghyd â Fredrika Bremer, ystyrir Wägner yn aml yr arloeswr ffeministaidd pwysicaf a mwyaf dylanwadol Sweden. [9]
Bu'n gyfrifol am sefydlu a golygu'r cylchgrawn Tidevarvet rhwng 1924 a 1927.[10]
Yr awdur
golyguRoedd yn awdur toreithiog, ac ysgrifennodd nifer o nofelau (a dramau-ffilm) sy'n parhau i gael eu darllen heddiw. Y mwyaf poblogaidd yw:
- Norrtullsligan ("Dynion, ac Aflwyddiannau Eraill", 1908),
- Pennskaftet ("Y Llaw ar yr Ysgrifbin", 1910),
- Åsa-Hanna (1918),
- Kvarteret Oron ("Cornel Stormus", 1919),
- Silverforsen ("Y Dyfroedd Geirwon, Arian", 1924),
- Vändkorset ("Y Llidiart", 1934),
- Väckarklocka ("Cloc Larwm", 1941) a
- Vinden vände bladen ("Yr Awel a Drodd y Tudalennau", 1947).
Aelodaeth
golyguBu'n aelod o Academi Swedeg, Cymdeithas Y Naw a Chartref y Swedeg, am rai blynyddoedd.
Anrhydeddau
golygu- Dros y blynyddoedd, derbyniodd nifer o anrhydeddau, gan gynnwys: Prif Gwobr Samfundet De Ni (1923) .
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Cyffredinol: ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015.
- ↑ Disgrifiwyd yn: "Elin Mathilda Elisabeth Wägner". dyddiad cyrchiad: 28 Chwefror 2020. "Elin Wägner (1882-1949)". dyddiad cyrchiad: 24 Medi 2020. "Elin Mathilda Elisabeth, f. 1882 i Lund Malmöhus län". Cyrchwyd 28 Medi 2020. "Norra kyrkogården i Lund". Cyrchwyd 12 Mai 2023.
- ↑ Rhyw: Ffeil Awdurdodi Rhyngwladol. dyddiad cyrchiad: 4 Tachwedd 2018. ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015.
- ↑ Dyddiad geni: "Elin Matilda Elisabeth Wägner". "Elin Mathilda Elisabeth Wägner". dyddiad cyrchiad: 28 Chwefror 2020. "Lunds domkyrkoförsamlings kyrkoarkiv, Födelse- och dopböcker, SE/LLA/13254/C I/14 (1881-1892), bildid: 00106227_00062, sida 58". Cyrchwyd 28 Medi 2020.
- ↑ Dyddiad marw: "Elin Matilda Elisabeth Wägner". "Elin Mathilda Elisabeth Wägner". dyddiad cyrchiad: 28 Chwefror 2020. "Bergs kyrkoarkiv, Födelse- och dopböcker, SE/VALA/00028/C/4 (1920-1949), bildid: 80007270_00183". Cyrchwyd 28 Medi 2020.
- ↑ Man geni: "Elin Mathilda Elisabeth Wägner". dyddiad cyrchiad: 28 Chwefror 2020. "Lunds domkyrkoförsamlings kyrkoarkiv, Födelse- och dopböcker, SE/LLA/13254/C I/14 (1881-1892), bildid: 00106227_00062, sida 58". Cyrchwyd 28 Medi 2020. "Elin Mathilda Elisabeth, f. 1882 i Lund Malmöhus län". Cyrchwyd 28 Medi 2020.
- ↑ Man claddu: "Wägner, Elin Matilda Elisabet". Cyrchwyd 10 Mai 2023. "Norra kyrkogården i Lund". Cyrchwyd 12 Mai 2023.
- ↑ Tad: "Elin Mathilda Elisabeth Wägner". dyddiad cyrchiad: 28 Chwefror 2020. "Lunds domkyrkoförsamlings kyrkoarkiv, Födelse- och dopböcker, SE/LLA/13254/C I/14 (1881-1892), bildid: 00106227_00062, sida 58". Cyrchwyd 28 Medi 2020. "Elin Mathilda Elisabeth, f. 1882 i Lund Malmöhus län". Cyrchwyd 28 Medi 2020.
- ↑ Aelodaeth: http://www.samfundetdenio.se/.
- ↑ Karl Erik Gustafsson; Per Rydén (2010). A History of the Press in Sweden (PDF). Gothenburg: Nordicom. ISBN 978-91-86523-08-4. Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 13 Chwefror 2015. Cyrchwyd 13 Chwefror 2015. Unknown parameter
|deadurl=
ignored (help)