Elin ap Hywel
Bardd, cyfieithydd a golygydd o Gymraes
Bardd, cyfieithydd a golygydd yw Elin ap Hywel.[1] Mae hi'n ysgrifennu yn Gymraeg ac yn Saesneg. Yn 2020, cyhoeddwyd Dal i Fod, casgliad o'i cherddi Cymraeg.[2] Hi oedd cymrodor dwyieithog gyntaf y Gronfa Lenyddol Frenhinol ym Mhrifysgol Cymru.[3]
Elin ap Hywel | |
---|---|
Ganwyd | 1962 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Bywyd personol
golyguMae Elin ap Hywel yn hoff o gerddoriaeth Simon a Garfunkel.[4] Mae hi wedi trafod yn agored ei bod yn dioddef gan orddryswch (dementia)[2] yn sgil clefyd Alzheimer.[4] Mae hi'n byw yn Aberystwyth gyda'i mab, Efan, a'i phartner, Hywel.[4]
Llyfrau
golyguBarddoniaeth
golygu- Pethau Brau, rhan o Gyfres y Beirdd Answyddogol, 1982
- Ffiniau / Borders, ar y cyd gyda Grahame Davies, 2002
- Dal i Fod, 2020
Cyfieithiadau
golygu- Glesni, cyfieithiad Cymraeg o Amber gan Jacqueline Wilson, 1997
- Y Celtiaid Cythryblus, cyfieithiad Cymraeg o The Cut-Throat Celts o gyfres llyfrau hanes i blant Horrible Histories.
- Twilight Song, cyfieithiad Saesneg o Si Hei Lwli gan Angharad Tomos, 2004
Fel golygydd
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ "Elin ap Hywel". Cyfnewidfa Lên Cymru. Cyrchwyd 2020-10-09.
- ↑ 2.0 2.1 Rowlands, Elinor Wyn (Haf 2020). "Dal i Fod". Barddas 346: 46.
- ↑ "Elin ap Hywel". The Royal Literary Fund (yn Saesneg). Cyrchwyd 2020-10-09.
- ↑ 4.0 4.1 4.2 "Q&A: Elin ap Hywel". Alzheimer's Society (yn Saesneg). Cyrchwyd 2020-10-09.