Angharad Tomos

awdur ac ymgyrchydd iaith

Awdures ac ymgyrchydd o Gymraes yw Angharad Tomos (ganed 19 Gorffennaf 1958).

Angharad Tomos
Geni Angharad Tomos
(1958-07-19) 19 Gorffennaf 1958 (65 oed)
Bangor, Gwynedd
Galwedigaeth Awdures,
ymgyrchydd iaith
Cenedligrwydd Baner Cymru Cymreig
Addysg Ysgol Gynradd Bontnewydd ac Ysgol Dyffryn Nantlle
Cyfnod ysgrifennu 1982–
Math o lên Llenyddiaeth plant, llenyddiaeth ffuglen a ffeithiol ar gyfer oedolion
Gwaith nodedig Si Hei Lwli, Wele'n Gwawrio, Titrwm
Priod Ben Gregory
Plant Un bachgen

Bywgraffiad golygu

Fe'i ganed ym Mangor, Gwynedd ym 1958, a chafodd ei magu yn un o bum chwaer yn Llanwnda ger Caernarfon. Mynychodd Ysgol Gynradd Bontnewydd ac Ysgol Dyffryn Nantlle. Cychwynodd ei haddysg uwch ym Mhrifysgol Cymru, Aberystwyth, ond bu iddi adael er mwyn gweithio i Gymdeithas yr Iaith. Cafodd radd ym Mhrifysgol Cymru, Bangor yn ddiweddarach.

Mae'n ymgyrchydd iaith digyfaddawd, yn llenor disglair, ac wedi gwneud cyfraniad enfawr gyda'i llyfrau i blant. Bu'n gadeirydd Cymdeithas yr Iaith. Enillodd Fedal Lenyddiaeth Eisteddfod yr Urdd ym 1981 ac eto ym 1982 â'i chyfrol Hen Fyd Hurt.

Mae hi'n ysgrifennu a darlunio llyfrau i blant, gan gynnwys ei chyfres Rwdlan, a leolir yng Ngwlad y Rwla. Rala Rwdins oedd y gyfrol gyntaf yn y gyfres hon, cyhoeddwyd gan Y Lolfa ym 1983.

Ym 1985 derbyniodd wobr yr Academi Gymreig am ei nofel Yma o Hyd sydd am fywyd carchar y cafodd hi ei hun brofiad ohnno fel ymgyrchydd iaith. Enillodd Fedal Ryddiaith yr Eisteddfod Genedlaethol ddwywaith, ym 1991 ac ym 1997, a Gwobr Tir na n-Og ddwywaith yn ogystal, ym 1986 ac 1994

Enillodd Wobr Mary Vaughan Jones yn 2009 am ei chyfraniad tuag at llenyddiaeth plant yng Nghymru.[1]

Mae hi'n briod â Ben Gregory ac yn byw ym Mhen-y-groes, Gwynedd.

Ymgyrchu golygu

Mae Tomos yn ymgyrchydd sydd wedi cefnogi sawl achos. Yn ogystal ag ymgyrchoedd dros y Gymraeg mae hi wedi gweithredu dros heddwch a gwrth-ryfel[2] ac yn erbyn cerflun Henry Morton Stanley yn Ninbych[3].

Llyfryddiaeth golygu

 

Gwobrau ac anrhydeddau golygu

Cyfeiriadau golygu

Dolenni allanol golygu