Horrible Histories

Mae Horrible Histories yn gyfres llyfrau hanes, a hefyd yn rhaglen deledu ar CBBC. Cyhoeddwyd y llyfrau yn y Deyrnas Unedig gan Scholastic. Bwriad y llyfrau yw i gael plant i ymddiddori mewn hanes trwy ganolbwyntio ar ffeithiau anghyffredin, gwaedlyd neu annymunol. Bu'r gyfres yn hynod lwyddiannus o safbwynt masnachol. Ysgrifennwyd y llyfrau gan Terry Deary, Peter Hepplewhite a Neil Tonge ac fe'u darluniwyd gan Martin Brown, Mike Phillips a Philip Reeve.

Horrible Histories
Enghraifft o'r canlynolcyfres o lyfrau Edit this on Wikidata
AwdurTerry Deary, Peter Hepplewhite Edit this on Wikidata
CyhoeddwrScholastic Corporation, Salani Edit this on Wikidata
Gwlady Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Genrellenyddiaeth plant, hanes Edit this on Wikidata
Clawr y gyfrol ar hanes Ffrainc.

Cyhoeddwyd y llyfrau cyntaf yn y gyfres, "The Terrible Tudors" a "The Awesome Egyptians", ym mis Mehefin 1993. Ers hynny mae nifer o'r llyfrau wedi cael eu haddasu i'r Gymraeg.

Gweler hefyd golygu

  Eginyn erthygl sydd uchod am lyfr. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.