Elisabeth Langgässer
Awdures o'r Almaen oedd Elisabeth Langgässer (23 Chwefror 1899 - 25 Gorffennaf 1950) sy'n cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel awdur storiau byrion a nofelau, ac fel bardd ac athrawes. Roedd Cordelia Edvardson yn blentyn iddi. Mae ei stori fer Saisonbeginn, er enghraifft yn stori am bentref ar gyrion yr Alpau yn codi arwydd sy'n gwahardd Iddewon.
Elisabeth Langgässer | |
---|---|
Ganwyd | Elisabeth Langgässer 23 Chwefror 1899 Alzey |
Bu farw | 25 Gorffennaf 1950 o Sglerosis ymledol Karlsruhe |
Dinasyddiaeth | Yr Almaen |
Galwedigaeth | awdur geiriau, rhyddieithwr, awdur storiau byrion, llenor, bardd, athro |
Partner | Hermann Heller |
Plant | Cordelia Edvardson |
Gwobr/au | Gwobr Georg Büchner |
Fe'i ganed yn Alzey, Rheinland-Pfalz, yr Almaen ar 23 Chwefror 1899 a bu farw yn Karlsruhe, Baden-Württemberg, hefyd yn yr Almaen.[1][2][3][4][5][6]
Hanodd o deulu dosbarth canol, Catholig. Daeth yn athrawes yn 1922, ac yn dilyn affêr gyda'r Iddew Hermann Heller cafodd blentyn "anghyfrithlon", Cordelia, yn 1929. O ganlyniad i hyn, cafodd ei chardiau o'i swydd dysgu.[7]
Troi at sgwennu
golyguO 1924 ymlaen cyhoeddodd Langgässer farddoniaeth ac adolygiadau. Ar ôl colli ei gwaith fel athrawes trodd at yrfa lenyddol. Ystyriwyd ei hysgrifau fel Naturmagie (lledrith natur), lle'r oedd elfen o hud yn datblygu o fewn y byd o natur. Roedd y symudiad hwn yn gysylltiedig ag ysgrifenwyr a gyhoeddodd yn y cylchgrawn Die Kolonne rhwng 1929 a 1932. Aelodau eraill o fudiad llenyddol Naturmagie oedd Günter Eich, Horst Lange, Peter Huchel, Wilhelm Lehmann ac Oskar Loerke.[8]
Erlyniaeth gan y Natsiaid
golyguDaeth Langgässer yn aelod o'r Reichsschrifttumskammer (Siambr Lenyddol y Reich).[9] Yn 1935 priododd Langgässer â Wilhelm Hoffman a chyda'i gilydd cawsant dair merch. Dosbarthwyd Langgässer fel hanner Iddewes oherwydd perthynas Iddewig ar ochr ei thad o'r teulu. Cafodd ei gwahardd ar sail hil o Siambr Lenyddol y Reich ac apeliodd at Hans Hinkel ym mis Awst 1937 ac yna i Goebbels y Ebrill 1938.
Yn diwedd, fe'i harbedwyd gan ei phriodas â Hoffman. Fodd bynnag, cafodd ei merch, Cordelia, yr oedd ei thad yn Iddew amlwg, ei halltudio yn 15 oed i Theresienstadt ac yna Auschwitz yn 1944. Goroesodd Cordelia yn dilyn cyfnewid carcharorion gwersyll â charcharorion o'r Almaen yn Sweden.
Aelodaeth
golyguBu'n aelod o Academi Iaith a Barddoniaeth Almaeneg am rai blynyddoedd.
Anrhydeddau
golygu- Dros y blynyddoedd, derbyniodd nifer o anrhydeddau, gan gynnwys: Gwobr Georg Büchner (1950) .
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Cyffredinol: ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015.
- ↑ Disgrifiwyd yn: https://link.springer.com/chapter/10.1007/978-3-476-03702-2_201. dyddiad cyrchiad: 31 Gorffennaf 2022.
- ↑ Rhyw: Gemeinsame Normdatei. dyddiad cyrchiad: 5 Gorffennaf 2024.
- ↑ Dyddiad geni: Deutsche Nationalbibliothek; Staatsbibliothek zu Berlin; Bayerische Staatsbibliothek; Llyfrgell Genedlaethol Awstria (yn de), Gemeinsame Normdatei, Wikidata Q36578, https://gnd.network/, adalwyd 9 Ebrill 2014 ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015. "Elisabeth Langgässer". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Elisabeth Langgässer". Discogs. Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Elisabeth Langgässer". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Elisabeth Langgässer". "Elisabeth Langgässer". Cyrchwyd 9 Hydref 2017.
- ↑ Dyddiad marw: Deutsche Nationalbibliothek; Staatsbibliothek zu Berlin; Bayerische Staatsbibliothek; Llyfrgell Genedlaethol Awstria (yn de), Gemeinsame Normdatei, Wikidata Q36578, https://gnd.network/, adalwyd 9 Ebrill 2014 ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015. "Elisabeth Langgässer". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Elisabeth Langgässer". Discogs. Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Elisabeth Langgässer". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Elisabeth Langgässer". "Elisabeth Langgässer". Cyrchwyd 9 Hydref 2017.
- ↑ Man geni: Deutsche Nationalbibliothek; Staatsbibliothek zu Berlin; Bayerische Staatsbibliothek; Llyfrgell Genedlaethol Awstria (yn de), Gemeinsame Normdatei, Wikidata Q36578, https://gnd.network/, adalwyd 10 Rhagfyr 2014
- ↑ Joanne Sayner (2007). Women Without a Past?: German Autobiographical Writings and Fascism. Rodopi. tt. 119. ISBN 9789042022287.
- ↑ Ingo Roland Stoehr (2001). German Literature of the Twentieth Century: From Aestheticism to Postmodernism. Boydell & Brewer. tt. 214. ISBN 9781571131577.
- ↑ Joanne Sayner (2007). Women Without a Past?: German Autobiographical Writings and Fascism. Rodopi. tt. 135. ISBN 9789042022287.