Agor y brif ddewislen

Elisedd ap Gwylog

Brenin Teyrnas Powys

Roedd Elisedd ap Gwylog (bu farw c. 755), a adnabyddir hefyd fel Elise, yn frenin Powys.[1]

Elisedd ap Gwylog
Ganwyd 700s Edit this on Wikidata
Bu farw 755 Edit this on Wikidata
Dinasyddiaeth Baner Cymru Cymru
Galwedigaeth teyrn Edit this on Wikidata
Swydd brenin Edit this on Wikidata
Tad Gwylog ap Beli Edit this on Wikidata
Plant Brochfael ab Elisedd, Cadell Powys, Enghenedl Edit this on Wikidata

HanesGolygu

 
Croes Eliseg; yr ysgrifen.

Ychydig sydd wedi ei gadw yn y cofnodion hanesyddol am Elisedd, oedd o linach Brochwel Ysgithrog. Mae'n ymddangos iddo adennill tiriogaeth Powys wedi iddo gael ei gipio gan y Saeson. Cododd ei or-ŵyr Cyngen ap Cadell golofn er côf amdano sydd i'w gweld heb fod ymhell o Abaty Glyn y Groes (sy'n llawer diweddarach). Adwaenir y golofn yma fel Croes Eliseg, ond credir mai camgymeriad oedd hyn ar ran y cerfiwr.[1]

Mae'r arysgrif Ladin ar y golofn bron yn amhosibl ei darllen yn awr, ond yr oedd yn gliriach yn oes Edward Llwyd a wnaeth gopi ohono. Mae cyfeithiad o'r rhan o'r arysgrif sy'n delio ag Elisedd fel a ganlyn :

+ Cyngen fab Cadell, Cadell fab Brochmail, Brochmail fab Eliseg, Eliseg fab Guoillauc.
+ A'r Cyngen hwnnw, gor-ŵyr Eliseg, a gododd y maen yma ar gyfer ei hen daid Eliseg.
+ Yr Eliseg hwnnw a gasglodd ynghyd etifeddiaeth Powys . . . allan o afael yr Eingl â'i gleddyf ac â thân.
+ Pwy bynnag sy'n ailadrodd yr arysgrif yma, rhoed fendith ar enaid Eliseg.

Dilynwyd Elisedd gan ei fab Brochfael.[1]

CyfeiriadauGolygu

  1. 1.0 1.1 1.2 John Edward Lloyd (1911) A history of Wales from the earliest times to the Edwardian conquest (Longmans, Green & Co.).