Elizabeth Gurley Flynn

Ffeminist gweithredol, Americanaidd oedd Elizabeth Gurley Flynn (7 Awst 1890 - 5 Medi 1964) a oedd hefyd yn hunangofiannydd, newyddiadurwr, undebwr llafur, ymgyrchydd, a gwleidydd. Ei llysenw oedd "The Rebel Girl".

Elizabeth Gurley Flynn
Ganwyd7 Awst 1890 Edit this on Wikidata
Concord, New Hampshire Edit this on Wikidata
Bu farw5 Medi 1964 Edit this on Wikidata
Moscfa Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Unol Daleithiau America Unol Daleithiau America
Galwedigaethymgyrchydd dros hawliau merched, ymgyrchydd, ymgyrchydd dros bleidlais i ferched, undebwr llafur, gwleidydd, cadeirydd plaid wleidyddol, newyddiadurwr, ysgrifennwr, hunangofiannydd Edit this on Wikidata
Plaid WleidyddolPlaid Gomiwnyddol UDA Edit this on Wikidata
PartnerCarlo Tresca Edit this on Wikidata

Fe'i ganed yn Concord, New Hampshire , Unol Daleithiau America, bu farw yn Moscfa, Rwsia ac fe'i claddwyd ym Mynwent Almaenig Waldheim, Chicago.[1][2][3][4]

Roedd Elizabeth Gurley Flynn yn ffeministaidd a chwaraeodd ran flaenllaw o fewn mudiad Gweithwyr Diwydiannol y Byd (Industrial Workers of the World, neu IWW). Roedd Flynn yn un o aelodau gwreiddiol Undeb Hawliau Sifil America, ac roedd yn amlwg iawn o ran hawliau menywod, rheoli cenhedlu, a phleidlais menywod (neu 'etholfraint'). Ymunodd â Phlaid Gomiwnyddol UDA yn 1926 ac yn hwyr yn ei bywyd, yn 1961, daeth yn gadeirydd y blaid. Bu farw yn ystod ymweliad â'r Undeb Sofietaidd, lle cafodd angladd gwladwriaethol gyda gorymdeithiau yn y Sgwâr Coch, cynhebrwng a fynychwyd gan dros 25,000 o bobl.[5]

Magwraeth a phriodi golygu

Ganwyd Elizabeth Gurley Flynn yn 1890 yn Concord, New Hampshire, yn ferch i Annie (Gurley) a Thomas Flynn.[6] Symudodd y teulu i Efrog Newydd yn 1900, lle cafodd ei haddysgu yn yr ysgolion cyhoeddus lleol. Cyflwynodd ei rhieni hi i sosialaeth pan oedd yn ferch ifanc. Pan oedd ond yn bymtheg oed rhoddodd ei haraith gyhoeddus gyntaf, "What Socialism Will Do for Women," yng Nghlwb Sosialaidd Harlem. O ganlyniad, teimlai orfodaeth i siarad yn gyhoeddus am newid cymdeithasol, a gadawodd Ysgol Uwchradd Morris cyn graddio - dywedodd yn ddiweddarach ei bod yn difaru gwneud hynny.[7] [8]

 
Elizabeth yn ystod streic Cotwm Paterson; 1913.

Flwyddyn yn ddiweddarach, ym 1907 cyfarfu â threfnydd lleol Minnesota ar gyfer Gweithwyr Diwydiannol y Byd (Industrial Workers of the World), sef J. A. Jones. Roedd yn un-deg-chwe mlynedd yn hŷn na hi, ond dywedodd Flynn yn ei hunangofiant, "Fe syrthiais mewn cariad ag ef ac fe briodon ni ym mis Ionawr 1908." Cawsant ddau fab, John Vincent a fu farw ychydig ddyddiau ar ôl yr enedigaeth, a Fred Flynn, ganwyd 19 Mai 1910 (a fu farw ym 1940).[9][10]

Aelodaeth golygu

Bu'n aelod o Undeb Rhyddid Sifil America, a Gweithwyr Diwydiannol y Byd am rai blynyddoedd.

Anrhydeddau golygu


Gweler hefyd golygu

  • Mary Harris Jones; Gwyddeles-Americanaidd, arweinydd sosialaidd ac undebwraig a drefnodd nifer o streiciau gan herio a chwyldroi Industrial Workers of the World.

Cyfeiriadau golygu

  1. Rhyw: Ffeil Awdurdodi Rhyngwladol. dyddiad cyrchiad: 4 Tachwedd 2018.
  2. Dyddiad geni: "Elizabeth Gurley Flynn". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Elizabeth Gurley Flynn". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Elizabeth Gurley Flynn". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Elizabeth Gurley Flynn". ffeil awdurdod y BnF. "Elizabeth Gurley Flynn". "Elizabeth G. Flynn". Cyrchwyd 9 Hydref 2017.
  3. Dyddiad marw: "Elizabeth Gurley Flynn". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Elizabeth Gurley Flynn". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Elizabeth Gurley Flynn". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Elizabeth Gurley Flynn". ffeil awdurdod y BnF. "Elizabeth Gurley Flynn". "Elizabeth G. Flynn". Cyrchwyd 9 Hydref 2017.
  4. Man claddu: https://npgallery.nps.gov/pdfhost/docs/NHLS/Text/97000343.pdf.
  5. "Revolt, They Said". www.andreageyer.info. Cyrchwyd 2017-06-11.
  6. "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-05-15. Cyrchwyd 2019-05-15.
  7. Flynn, Elizabeth Gurley (1955). I Speak My Own Piece. New York: Masses & Mainstream, Inc. tt. 52–53.
  8. Galwedigaeth: "Women's history: Elizabeth Gurley Flynn, the Rebel Girl". 19 Mawrth 2010.
  9. Flynn, Elizabeth Gurley (1955). I Speak My Own Piece. New York: Masses & Mainstream, Inc. tt. 74–75.
  10. Flynn, Elizabeth Gurley (1955). I Speak My Own Piece. New York: Masses & Mainstream, Inc. tt. 102–03.