Elke Erb
Awdures a bardd o'r Almaen yw Elke Erb (18 Chwefror 1938 – 22 Ionawr 2024) sydd hefyd yn cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel cyfieithydd a golygydd gweithiau llenyddol.[1][2][3]
Elke Erb | |
---|---|
Ganwyd | 18 Chwefror 1938 Rheinbach |
Bu farw | 22 Ionawr 2024 Berlin |
Man preswyl | Berlin, Wuischke/Wuježk |
Dinasyddiaeth | Yr Almaen |
Alma mater | |
Galwedigaeth | cyfieithydd, llenor |
Tad | Ewald Erb |
Priod | Adolf Endler |
Plant | Konrad Endler |
Gwobr/au | Gwobr Heinrich Mann, Gwobr F.-C.-Weiskopf, Ida-Dehmel-Literaturpreis, Gwobr Lenyddol Erlangen am Gyfieithu Barddoniaeth, Gwobr Ernst-Jandl, Gwobr Erich Fried, Gwobr Peter-Huchel, Q2127382, Gwobr Hans-Erich-Nossack, Gwobr Literaturhäuser, Gwobr Roswitha, Mörike-Preis der Stadt Fellbach, Gwobr Georg Büchner, Georg-Trakl-Preis für Lyrik |
Fe'i ganed yn Rheinbach, talaith Nordrhein-Westfalen yn yr Almaen ar 18 Chwefror 1938.[4][5][6][7][8]
Magwraeth
golyguGaned Elke Erb yn Scherbach (rhan o Rheinbach heddiw) yn y bryniau i'r de o Bonn. Roedd ei rhieni wedi symud yno gyda'i hewythr Otto a'i deulu ym 1937 er mwyn "gaeafu dros y Sosialaeth Genedlaethol", fel y dywedodd ei thad Ewald Erb (1903–1978).[9] Gweithiaia ef yn y dreth leol, ar ôl iddo golli ei swydd academaidd fel hanesydd llenyddol Marcsaidd ym Mhrifysgol Bonn yn 1933, oherwydd "gweithgareddau Comiwnyddol". Roedd ei mam Elisabeth yn gweithio ar y tir. Elke oedd yr hynaf o dair merch ei rhieni, pob un wedi eu geni yn Scherbach rhwng 1938 a 1941 pan gafodd ei thad ei orfodi i wasanaeth milwrol. Yr ieuengaf o'r tair chwaer yw'r awdur-bardd Ute Erb.[9]
Rhwng 1941 a 1949 carcharwyd ei thad am y drosedd o "Wehrkraftzersetzung", sef credu mewn annibyniaeth i'w wlad. Symudodd y teulu i Halle, yn yr ardal Gomiwnyddol, pan ddaeth allan o'r carchar a gweithiodd yn y brifysgol leol. Un ystafell, gydag un gwely oedd eu cartref, ac felly bu'n rhaid i'r dair ferch, gan gynnwys Elke, fynd i gartref a oedd hefyd yn ysgol breswyl am ddwy flynedd. Cafodd hyn gryn effaith seicolegol arni.[2][10][11]
Awdur
golyguYn 1969, aeth ar ymweliad hir â Georgia. Yno yn 1974 cyhoeddodd un o'i darnau mawr cyntaf, sef cyfieithiad o destun gan Marina Tsvetaeva. Cynhyrchodd farddoniaeth a rhyddiaith a chyfieithiadau pellach, yn enwedig nofelau gan Oleg Alexandrovitch Yuryev a cherddi gan Olga Martynova. Roedd ei haddasiadau yn bennaf o'r Almaeneg, ond hefyd o destunau Rwsieg, Saesneg, Eidaleg a Sioraidd. Gweithiodd fel golygydd am gyfnod, er enghraifft o'r blynyddlyfr Jahrbuch der Lyrik. [12]
Aelodaeth
golyguBu'n aelod o Academi Gelf, Berlin, ac Academi Gelf Saská am rai blynyddoedd.
Llyfryddiaeth
golyguCerddi a rhyddiaith
golygu- Gutachten. Poesie und Prosa. Aufbau Verlag, Berlin, Weimar 1975
- Einer schreit: Nicht! Geschichten und Gedichte. Wagenbach, Berlin 1976
- Der Faden der Geduld. Aufbau Verlag, Berlin, Weimar 1978.
- Trost. Gedichte und Prosa. Deutsche Verlagsanstalt, Stuttgart 1982 (ausgewählt von Sarah Kirsch)
- Vexierbild. Aufbau Verlag, Berlin, Weimar 1983.
- Kastanienallee. Texte und Kommentare. Aufbau Verlag, Berlin, Weimar 1987.
- Winkelzüge oder Nicht vermutete, aufschlußreiche Verhältnisse. (Illustrationen: Angela Hampel) Druckhaus Galrev, Berlin 1991
- Nachts, halb zwei, zu Hause. Texte aus drei Jahrzehnten. Reclam Leipzig, Leipzig 1991 (ausgewählt von Brigitte Struzyk)
- Poets Corner 3: Elke Erb, Unabhängige Verlagsbuchhandlung Ackerstraße, Berlin 1991.
- Unschuld, du Licht meiner Augen. Gedichte, Steidl Verlag, Göttingen 1994
- Der wilde Forst, der tiefe Wald. Auskünfte in Prosa, Steidl Verlag, Göttingen 1995.
- Mensch sein, nicht. Gedichte und andere Tagebuchnotizen. Urs Engeler, Basel und Weil am Rhein 1998
- Leibhaftig lesen. Gedichte, Verlag Ulrich Keicher, Warmbronn 1999
- Sachverstand. Werkbuch, Gedichte, Urs Engeler Editor, Basel und Weil am Rhein 2000.
- Lust. 2 Gedichte. Verlag Ulrich Keicher, Warmbronn 2001.
- Parabel. Verlag Unartig 2002.
- die crux. Gedichte, Urs Engeler Editor, Basel und Weil am Rhein 2003.
- Gänsesommer. Gedichte, Urs Engeler Editor, Basel und Weil am Rhein 2005.
- Freunde hin, Freunde her. Gedichte (= Lyrikedition 2000). BUCH&media, München 2005, ISBN 3-865-20154-7.
- Sonanz. 5-Minuten-Notate. Gedichte, Urs Engeler Editor, Basel und Weil am Rhein 2008.
- Wegerich. Wahn. Denn Wieso? Gedichte (aus Sonanz), Verlag Ulrich Keicher, Warmbronn 2008.
- Meins. Gedichte, roughbooks, Wuischke, Berlin und Holderbank 2010
- Elke Erb. (= Poesiealbum. 301). Märkischer Verlag Wilhelmshorst 2012, ISBN 978-3-943708-01-1.
- Das Hündle kam weiter auf drein. Gedichte, roughbooks, Berlin, Wuischke und Solothurn 2013.
- Sonnenklar. Gedichte, roughbooks, Berlin, Wuischke und Solothurn 2015.
Seinlyfr
golygu- in: Dichtung des 20. Jahrhunderts: Meine 24 sächsischen Dichter. Hrsg. Gerhard Pötzsch, 2 CDs, Militzke Verlag, Leipzig 2009, ISBN 978-3-86189-935-8.
Cyfieithiadau
golygu- Oleg Jurjew: Halbinsel Judatin, Roman. Vom Autor neugeordnete u. durchges. Fassung. Aus dem Russ. von Elke Erb unter Mitw. von Sergej Gladkich. Verlag Jung & Jung, Salzburg 2014, ISBN 978-3-99027-053-0.
Anrhydeddau
golygu- Dros y blynyddoedd, derbyniodd nifer o anrhydeddau, gan gynnwys: Gwobr Heinrich Mann (1990), Gwobr F.-C.-Weiskopf (1999), Ida-Dehmel-Literaturpreis (1995), Gwobr Lenyddol Erlangen am Gyfieithu Barddoniaeth (2011), Gwobr Ernst-Jandl (2013), Gwobr Erich Fried (1995), Gwobr Peter-Huchel (1988), Q2127382 (1994), Gwobr Hans-Erich-Nossack (2007), Gwobr Literaturhäuser (2011), Gwobr Roswitha (2012), Mörike-Preis der Stadt Fellbach (2018), Gwobr Georg Büchner (2020), Georg-Trakl-Preis für Lyrik (2012)[13][14] .
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Klaus Michael; Andreas Kölling. "Erb, Elke * 18.2.1938 Schriftstellerin". "Wer war wer in der DDR?". Ch. Links Verlag, Berlin & Bundesstiftung zur Aufarbeitung der SED-Diktatur, Berlin. Cyrchwyd 12 Mawrth 2019.
- ↑ 2.0 2.1 "Elke Erb deutsche Schriftstellerin". Biographien. Munzinger Archiv GmbH, Ravensburg. Cyrchwyd 12 Mawrth 2019.
- ↑ Elizabeth Oehlkers (1 Hydref 2012). "Mountains in Berlin by Elke Erb". Book review: Rosmarie Waldrop, trans. Providence: Burning Deck, 1995. 94 tt. ISBN 1-886224-06-4. From the original German texts: Gutachten, Der Faden der Geduld, and Vexierbild. Berlin. Aufbau-Verlag. Taylor & Francis (online). tt. 26–27. Cyrchwyd 12 Mawrth 2019.
- ↑ Cyffredinol: ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015.
- ↑ Disgrifiwyd yn: https://link.springer.com/chapter/10.1007/978-3-476-03702-2_114. dyddiad cyrchiad: 31 Gorffennaf 2022.
- ↑ Rhyw: ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015. Gemeinsame Normdatei. dyddiad cyrchiad: 13 Mehefin 2024.
- ↑ Dyddiad geni: "Elke Erb". Discogs. Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Elke Erb". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Elke Erb".
- ↑ Dyddiad marw: https://www.deutschlandfunkkultur.de/die-lyrikerin-elke-erb-ist-gestorben-100.html. dyddiad cyrchiad: 24 Ionawr 2024.
- ↑ 9.0 9.1 Gabriele von Törne (18 Awst 2010). "Scherbach wurde Zuflucht vor den Nazis". General Anzeiger. Bonner Zeitungsdruckerei und Verlagsanstalt H. Neusser GmbH. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2017-10-10. Cyrchwyd 12 Mawrth 2019.
- ↑ Gregor Laschen (10 Medi 2010). "Elke Erb: Kastanienallee". Egmont Hesse (Planet Lyrik), Berlin. Cyrchwyd 12 Mawrth 2019.
- ↑ Andrea Marggraf (12 Chwefror 2008). ""Hoffnung brauch' ich keine"" (PDF). Presseartikel zu Elke Erb: Die Lyrikerin Elke Erb (radio programme transcription). Deutschlandradio Kultur (Literatur), Berlin & Urs Engeler, CH-Schupfart. Cyrchwyd 12 Mawrth 2019.
- ↑ Anrhydeddau: http://www.adk.de/de/akademie/preise-stiftungen/H_Mann_Preis.htm. dyddiad cyrchiad: 12 Medi 2015. http://www.europeonline-magazine.eu/autorin-erb-erhaelt-ernst-jandl-preis-fuer-lyrik_260372.html.
- ↑ http://www.adk.de/de/akademie/preise-stiftungen/H_Mann_Preis.htm. dyddiad cyrchiad: 12 Medi 2015.
- ↑ http://www.europeonline-magazine.eu/autorin-erb-erhaelt-ernst-jandl-preis-fuer-lyrik_260372.html.