Ellen Evans

prifathrawes Coleg Hyfforddi Morgannwg, y Barri

Pennaeth ysgol o Gymru oedd Ellen Evans (10 Mawrth 1891 - 26 Medi 1953).

Ellen Evans
Ganwyd10 Mawrth 1891 Edit this on Wikidata
Y Gelli Edit this on Wikidata
Bu farw26 Medi 1953 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethpennaeth Edit this on Wikidata
Cyflogwr
  • Coleg Hyfforddi Morgannwg Edit this on Wikidata

Fe'i ganed yn Y Gelli, Rhondda Cynon Taf yn 1891. Bu Evans yn ffigwr amlwg ym myd addysg Cymru, gan weithio ar ran y 'Nursery School Association' (corff Brydeinig), colegau Prifysgol Caerdydd ac Aberystwyth a cholegau Coleg Harlech a Choleg Hyfforddi Athrawon Morgannwg yn y Barri.

Ymunodd Evans â staff Coleg Hyfforddi Morgannwg, yn 1915. Roedd Coleg y Barri, fel y'i gelwid ar lafar (ond ni ddylid drysu â Choleg y Barri gyfoes sy'n coleg addysg bellach), yn goleg hyfforddi athrawesau a sefydlwyd yn 1914. Daeth Evans yn yn Bennaeth yn 1923 a bu farw yn ei swydd yn 1951.[1]

Bu'n aelod o nifer o gyrff cyhoeddus. Hi oedd yr unig ferch ar y Pwyllgor Adrannol ar Addysg, 1925-27, a'r wraig gyntaf i'w hethol ar lys yr Ysgol Feddygol (bellach Coleg Meddygol Prifysgol Cymru). Bu ar bwyllgor gwaith Coleg Harlech o'r dechreuad yn 1927, yn is-lywydd yn ddiweddarach ar lysoedd colegau Prifysgol Cymru yn Aberystwyth a Chaerdydd, ac islywydd Urdd Gobaith Cymru. Hi oedd cadeirydd cyntaf cangen Cymru o Gymdeithas Ysgolion Meithrin (Nursery School Association).[2]

Roedd yn ymgyrchwr a gweithredwr cryf dros addysg cyfrwng Gymraeg. Fel Pennaeth Coleg Athrawon y Barri i ferched, mynnodd bod darpar-athrawon o bob cefndir (hyd yn oed rhai di-Gymraeg) yn dysgu peth Cymraeg fel rhan o'r cwricwlwm. Ymddengys iddi hefyd gyd-awdura pamffledi ar bwnc addysg Gymraeg ac addysg Gymreig gan Cylch Dewi, sef, Welsh Books for Children ac Y Gymraeg yn yr Ysgolion.[3]

Gwaddol

golygu

Mewn teyrnged a gyhoeddwyd fel rhan o ysgrif goffa’r Western Mail ym Medi 1953, ffrind agos Ellen, Annie Gwen Jones (Mrs Edgar Jones), yn dweud:

"Wales will never posses a stronger or more pungent advocate of the Welsh way of life, its education or its literature. She lived for Wales without being insular. She pioneered for Wales at the expense of every personal and physical consideration as author, lecturer, adjudicator and broadcaster."'[4]

Roedd yn berson oedd ynghannol bwrlwm dros iaith, cymdeithas ac addysg Gymraeg a welwyd yn yr 1920au. Mae rhywfaint o dystiolaeth ei bod yn ymwneud â ‘Cymdeithas i Famau a Merched Cymru’, a sefydlwyd gan grŵp bach o ferched yn 1920 (yn sgil dathliadau canmlwyddiant genedigaeth Ieuan Gwynedd) i hyrwyddo dysgeidiaeth yr iaith Gymraeg a chrefyddol gwerthoedd i blant gan famau gartref.[5]

Gweler hefyd

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. "Rediscovering Ellen Evans (1891–1953),Principal of Glamorgan Training College, Barry" (PDF). Y Cymmrodorion. 2013.
  2. "Ellen Evans". Y Bywgraffiadur Cymreig. Cyrchwyd 2022-02-16.
  3. "Rediscovering Ellen Evans (1891–1953),Principal of Glamorgan Training College, Barry" (PDF). Y Cymmrodorion. 2013.
  4. "Rediscovering Ellen Evans, Interviews with retired teachers recorded as part of a project on women teachers in south Wales (2001–2), questionnaire responses by former students and staff of GTC Barry (2007), and notes made at Barry Cymmrodorion Society meeting transcribed and in the author's possession; Cassie Davies, Hwb i'r Galon: Atgofion Cassie Davies (Abertawe: Gwasg John Penry, 1973)" (PDF). Cymmrodorion. Cyrchwyd 2022-02-14.
  5. "Rediscovering Ellen Evans Cyfweliad gyda Miss Norah Isaac, Caerfyrddin, Mawrth 2001; llythyr personol oddi wrth y Barnwr Dewi Watkin Powell, 24 Mai 2007. Am wybodaeth am y gymdeithas, gweler Mari A. Williams, 'Y Ferch a'r Gymraeg yng Nghymoedd De Cymru, 1914–45', yn [['Eu Hiaith a Gadwant'?|Eu Hiaith a Gadwant]], gol. Jenkins a Williams, tt. 157–9" (PDF). Cymmrodorion. Cyrchwyd 2022-02-14. URL–wikilink conflict (help)