Coleg Hyfforddi Morgannwg

Coleg hyfforddi athrawon benywaidd (yn wreiddiol) rhwng 1914-1981, yn y Barri.

Roedd Coleg Hyfforddi Morgannwg (hefyd Coleg Addysg Morgannwg a Coleg Hyfforddi y Barri[1]) yn goleg ar gyfer hyfforddi athrawon benywaidd a leolwyd yn Y Barri. Ar lafar galwyd y lle yn Goleg y Barri, ond ni ddylid drysu hyn gyda Choleg y Barri gyfredol sy'n goleg addysg bellach.

Coleg Hyfforddi Morgannwg
Daearyddiaeth
Lleoliady Barri Edit this on Wikidata
SirBro Morgannwg
GwladBaner Cymru Cymru
Corff gweithredolcoleg hyfforddi athrawon Edit this on Wikidata

Bu ymgyrchu dros goleg hyffordd i ferched gan bobl fel Elizabeth Phillips Hughes, oedd yn wreiddiol o Gaerfyrddin a daeth yn Bennaeth Coleg Hyfforddi Caergrawnt, (lle enwyd Hughes Hall ar ei hôl).[2]

Sefydlwyd Coleg Hyfforddi Morgannwg gan Gyngor Sir Morgannwg ym 1914 i hyfforddi athrawon benywaidd o Sir Forgannwg a Sir Fynwy (Gwent gyfoes). Estynnwyd y dalgylch yn 1947 i gynnwys y Deyrnas Unedig yn gyfan, ac o 1962 derbyniwyd dynion.

Ym 1965 newidiwyd ei enw i Goleg Addysg Morgannwg; ddeng mlynedd yn ddiweddarach, ar ôl ad-drefnu llywodraeth leol, cafodd ei uno â Pholytechnig Morgannwg (a ddaeth, maes o law, yn Brifysgol De Cymru yn Nhrefforest, Pontypridd. Caeodd y safle ar ddiwedd tymor yr haf yn 1981.

Dechreuodd cysylltiad y coleg â Phrifysgol Cymru yn 1924 ac fe'i ffurfiolwyd pan sefydlwyd Bwrdd Colegau Hyfforddi'r Brifysgol ym 1929. Ym 1949 disodlwyd y Bwrdd gan yr ysgol addysg a'i chorff llywodraethu oedd Bwrdd Addysg y Brifysgol. Roedd Cyfadran Addysg y Brifysgol yn cynnwys cynrychiolwyr o staff addysgu'r colegau a oedd yn cymryd rhan, ac roedd hefyd gyfadran golegol ar gyfer y colegau hynny a oedd yn gysylltiedig â Choleg y Brifysgol, Caerdydd. Daeth y cysylltiad i ben pan ddaeth y coleg yn rhan o Goleg Polytechnig Morgannwg.[3]

Prifathrawon y coleg

golygu
Miss Hilda M Raw 1914-1923
Miss Ellen Evans 1923-1953
Miss Olive R Powell 1953-1962
Dr E D Lewis 1963-1973
Mr Clement Roberts 1973-1975

Chwaer Sefydliad

golygu

Chwaer sefydliad Coleg Hyfforddi Morgannwg (oedd ar gyfer menywod yn wreiddiol) oedd Coleg Hyfforddi Sir Fynwy oedd ar gyfer hyfforddi athrawon gwrywaidd, a agorodd, fel coleg y Barri, ym 1914. Ym 1962 derbyniodd y ddau goleg myfyrwyr o'r ddau ryw. Daeth Coleg Hyfforddi Caerllion, maes o law, yn rhan o Brifysgol De Cymru.[4]

Penaethiaid

golygu

Pennaeth gyntaf y Coleg oedd Miss Raw. Daeth hi i drafferth yn lleol ar ôl dweud wrth ei myfyrwyr i beidio mynychu gwasanaethau crefyddol yn Noc y Barri na cherdded ar hyd Buttrills Rd, y Barri, wedi iddi dywyllu oherwydd bod "undesirable characters" yno.[5]

Ellen Evans

golygu

Roedd Ellen Evans yn Bennaeth o bwys a nodwedd arbennig. Yn siaradwr Cymraeg o'r Gelli, yn y Rhondda gyda chefndir yng Ngheredigion, roedd Evans yn daer dros addysg cyfrwng Cymraeg ac aeth ati i greu ethos Gymreig ymysg y coleg gan hyd yn oed cyflwyno elfen o ddysgu Cymraeg i fyfyrwyr di-Gymraeg ddod yn gyfarwydd gyda'r iaith, "Baby Welsh" fel y'i gelwid gan y myfyrwyr.[6] Bu iddi ysbrydoli cenhadon adnabyddus a sylweddol eraill dros addysg cyfrwng Cymraeg gan gynnwys Norah Isaac. Roedd Evans yn un o gefnogwyr sefydlu Undeb Cenedlaethol Athrawon Cymru yn 1940 ynghyd â phobl eraill megis Gwyn M. Daniel, er iddi ddanfon ei ymddiheuriad am fethu mynychu'r cyfarfod sefydlu ffurfiol ar 14 Rhagfyr 1940. yn Nhŷ'r Cymry, Caerdydd.[7]

Roedd yn aelod o'r Orsedd, a'i henw barddol oedd 'Elen'. Yn ystod ei gyrfa hir a phwysig, ac yn ogystal â bod yn Bennaeth Coleg Hyfforddi Morgannwg, cyfrannodd at ddatblygiad ysgolion meithrin a’r defnydd o’r Gymraeg mewn addysg. Roedd hi hefyd yn weithgar dros achos heddwch rhyngwladol, addysg grefyddol a mudiadau’r ifanc ac yn frwd o blaid diwylliant Cymru a’r Eisteddfod. Bu’n aelod o fyrddau a phwyllgorau di-rif, yn genedlaethol ac yn lleol, gan gynnwys Coleg Harlech, Urdd Gobaith Cymru, Llysoedd Colegau Prifysgol Caerdydd ac Aberystwyth ac UNESCO.[8][9]

Neuaddau Preswyl

golygu

Sefydlwyd Coleg Hyfforddi Morgannwg fel coleg ar gyfer darpar athrawesau, ond erbyn 1969 roedd yn goleg cymysg gyda myfyrwyr gwrywaidd yn ogystal â benywaidd. Erbyn hynny roedd y menywod yn preswylio yn Neuadd Gwent a'r dynion yn Neuadd Morgannwg. Caed hefyd bloc modern o'r enw Hafren.[10] Roedd hefyd Neuadd Eurgain oddi ar y campws.

Cyn-fyfyrwyr

golygu

Lleoliad Cyfres Deledu Coleg, S4C

golygu

Defnyddiwyd adeilad Coleg Hyfforddi Morgannwg fel set ar gyfer cyfres ddrama Coleg a ddarlledwyd ar S4C yn yr 1980au. Enw'r brifysgol yn y gyfres oedd Prifysgol Glannau Hafren.[11]

Cyfeiriadau

golygu
  1. "Catalogue description Glamorgan College of Education (formerly Barry Training College)". National Archives UK. Cyrchwyd 2022-02-14.
  2. (Saesneg) Le May, G. H. L. (2008). "Hughes, Elizabeth Phillips (1851–1925), college head and promoter of education in Wales". Oxford Dictionary of National Biography (arg. online). Gwasg Prifysgol Rhydychen. doi:10.1093/ref:odnb/37579.CS1 maint: ref=harv (link) (mae angen tanysgrifiad neu aelodaeth o lyfrgell gyhoeddus i ddarllen yr erthygl)
  3. "Glamorgan Training College/Glamorgan College of Education Records". Archifau Morgannwg. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2021-12-02. Cyrchwyd 2022-02-14.
  4. "Ein Hanes". Gwefan Prifysgol De Cymru. Cyrchwyd 2022-02-14.
  5. "From the Archive: a controversial headmistress". Barry and District News. 2019-03-23.
  6. "Rediscovering Ellen Evans (1891–1953),Principal of Glamorgan Training College, Barry" (PDF). Y Cymmrodorion. 2013.
  7. "Amdanom ni Amcanion a hanes". Gwefan UCAC.
  8. "Taith Gerdded Treftadaeth Menywod: Y Barri". Archif Menywod Cymru. Cite journal requires |journal= (help)
  9. "EVANS, ELLEN (1891 - 1953), prifathrawes Coleg Hyfforddi Morgannwg, y Barri". Y Bywgraffiadur Cymreig. Cyrchwyd 2022-02-14.
  10. Newberry, Roger (2014-08-11). "10 reasons I like Barry…". Roger Newberry Blog.
  11. "Barry Training College". Casgliad y Werin.

Dolen allanol

golygu