Awdures o Awstria oedd Elsa Asenijeff (3 Ionawr 1867 - 5 Ebrill 1941) sy'n cael ei hystyried yn nodedig am ei gwaith fel awdur a bardd.

Elsa Asenijeff
FfugenwElsa Asenijeff Edit this on Wikidata
GanwydElsa Maria von Packeny Edit this on Wikidata
3 Ionawr 1867 Edit this on Wikidata
Fienna Edit this on Wikidata
Bu farw5 Ebrill 1941 Edit this on Wikidata
Bräunsdorf Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Awstria Awstria
Galwedigaethllenor, bardd Edit this on Wikidata
Arddullbarddoniaeth Edit this on Wikidata
PartnerMax Klinger Edit this on Wikidata
llofnod

Ganwyd Elsa Maria Packeny yn Bräunsdorf, Fienna i deulu dosbarth canol. Roedd ei thad, Karl Packeny yn gyfarwyddwr Rheilffordd De Awstria. Gwrthododd sawl cynnig o briodas ond yn y diwedd gorfododd ei rhieni hi i briodi'r diplomat a'r peiriannydd Bwlgaraidd, Ivan Johann Nestroroff yn 1890, ac aeth gydag ef i Sofia. Doedd hi ddim yn briodas hapus a theimlai ar drugaredd ei gŵr yn aml ac roedd hon yn thema a ymddangosai'n gyson yn ei gweithiau. Ysgarodd Nestoroff yn 1896 ond caniataodd gwladwriaeth Bwlgaria iddi ddefnyddio Asenijeff fel ei henw swyddogol. Cyfarfu â'r paentiwr a'r cerflunydd Max Klinger (1857–1920) mewn gŵyl lenyddol yn Leipzig a daeth yn fodel ac yn gariad iddo. Aeth gydag ef ar deithiau niferus ond wnaeth Klinger ddim cydnabod eu perthynas yn gyhoeddus. Ystyrid Elsa Maria i fod â phersonoliaeth drawiadol a diddorol ac allblyg. Ganwyd merch iddynt, Désirée, ar 7 Medi 1900 tra oeddent ar ymweliad hir â Pharis. Fodd bynnag, ymbellhaodd Klinger oddi wrthi dros y blynyddoedd a ddilynodd a dewisodd model 18 oed, Gertrude Bock i deithio gydag ef; priododd hi ychydig fisoedd cyn ei farwolaeth. Treuliodd Packeny flynyddoedd olaf ei hoes yn byw mewn tlodi, gan i Klinger wrthod unrhyw gefnogaeth bellach iddi, ac nid oedd ganddi unrhyw gyswllt gyda'i pherthnasau yn Fienna, nac ychwaith gyda'i merch. Yn y diwedd cafodd ei chymryd mewn i Glinig Seiciatrig Prifysgol Leipzig lle treuliodd ddwy flynedd. Yn 1926 cafodd ei throsglwyddo i Hubertusburg ac yna i sefydliad yn Bräunsdorf ger Freiberg - sef sefydliad ar gyfer oedolion anghymdeithasol.[1]

Addysg a gyrfa

golygu

Mynychodd Asenijeff ganolfan hyfforddi athrawon yn Fienna hyd 1887. Wedi iddi ysgaru oddi wrth ei gŵr aeth i Leipzig yn 1897 i astudio athroniaeth ac economeg. Yn ystod y cyfnod y bu'n byw gyda Klinger yn Leipzig bu'n gynhyrchiol iawn o ran cyhoeddi llyfrau ac o 1912 ymlaen bu hefyd yn ysgrifennu barddoniaeth. Ymysg eu hymwelwyr yno roedd tri bardd ifanc, Walter Hasenclever (1890-1940), Kurt Pinthus (1886-1975 a Franz Werfel (1890-1945).

Cyfeiriadau

golygu
  1. "Elsa Asenijeff (1868-1941)". Österreichische Nationalbibliothek. 2006. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2013-01-06. Cyrchwyd 2020-02-07.