Elystan Morgan
Gwleidydd Cymreig oedd Dafydd Elystan Morgan, Barwn Elystan-Morgan (7 Rhagfyr 1932 – 7 Gorffennaf 2021).[1] Roedd yn fab i'r prifardd Dewi Morgan prifardd y gadair yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Pwllheli 1925.
Elystan Morgan | |
---|---|
Ganwyd | 7 Rhagfyr 1932 Ceredigion |
Bu farw | 7 Gorffennaf 2021 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | gwleidydd |
Swydd | aelod o Dŷ'r Arglwyddi, Aelod o 45ed Llywodraeth y DU, Aelod o 44ydd Llywodraeth y DU, llywydd corfforaeth |
Plaid Wleidyddol | y Blaid Lafur |
Tad | Dewi Morgan |
Mam | Olwen Morgan |
Priod | Alwen Roberts |
Plant | Eleri Morgan, Owain Morgan |
Gyrfa
golyguDechreuodd ei yrfa wleidyddol fel aelod o Blaid Cymru. Safodd dros y blaid yn is-etholiad seneddol Mawrth 1955 yn etholaeth Wrecsam, ac wedyn yn Etholiad Cyffredinol 1955, ac yna yn 1959 gan gael 6,579 pleidlais. Roedd Gwynfor Evans wedi penderfynu sefyll yn Etholaeth Caerfyrddin yn hytrach na Meirionnydd ac fe safodd Elystan yn ei le ym Meirionnydd. Siomedig oedd etholiad cyffredinol 1964 i Blaid Cymru ac fe ymunodd Elystan â'r Blaid Lafur yn Awst 1965. Yn Etholiad Cyffredinol 1966 safodd yn Etholaeth Ceredigion ac ennill y sedd i Lafur oddi ar Roderic Bowen, Rhyddfrydwr, gyda 523 o fwyafrif. Collodd y sedd yn 1974 i Geraint Howells, Rhyddfrydwr ac amaethwr lleol. Roedd Elystan wedi digio nifer o gefnogwyr y blaid wrth ochri gyda charfan Seisnig yng nghangen Plaid Lafur yr etholaeth a oedd yn uchel eu cloch yn erbyn sefydlu ysgol gyfun ddwyieithog yn Aberystwyth. Methiant fu ei ymdrech am y tro olaf i fynd i'r Tŷ'r Cyffredin drwy sefyll ym Môn yn etholiad cyffredinol 1979.[2]
Cafodd ei wneud yn farwn gan arddel y teitl Barwn Elystan-Morgan. Bu'n aelod gweithgar o Dŷ'r Arglwyddi cyn ymddeol ar 12 Chwefror 2020.[3]
Bywyd personol
golyguYn 1959, priododd Alwen Roberts. Cawsant dau o blant - ganwyd ei merch Eleri yn 1960 a'i mab Owain yn 1962. Bu farw ei wraig yn 2006.[4]
Bu farw yn ei gwsg gyda'i deulu wrth ei ochr ar fore Mercher, 7 Gorffennaf 2021.[5]
Llyfryddiaeth
golygu- Elystan: Atgofion Oes (2012)
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Yr Arglwydd Elystan Morgan wedi marw yn 88 oed , BBC Cymru Fyw, 7 Gorffennaf 2021.
- ↑ Vaughan Hughes Barn Rhifyn 599/600 Rhagfyr/Ionawe 2012/1213
- ↑ (Saesneg) Lord Elystan-Morgan. Adalwyd ar 12 Chwefror 2020.
- ↑ 'Elystan-Morgan, Baron (Morgan) (Life Baron 1981)' in Debrett's Peerage & Baronetage (fersiwn arlein, cyrchwyd 23 Ionawr 2012), P484
- ↑ Lord Elystan-Morgan, campaigner for Welsh devolution, dies (en) , BBC News, 7 Gorffennaf 2021.
Senedd y Deyrnas Unedig | ||
---|---|---|
Rhagflaenydd: Roderic Bowen |
Aelod Seneddol dros Geredigion 1966 – 1974 |
Olynydd: Geraint Howells |