Geraint Howells
ffermwr a gwleidydd
Geraint Wyn Howells, Yr Arglwydd Geraint o Bonterwyd (15 Ebrill 1925 – 18 Ebrill 2004), oedd arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru.
Geraint Howells | |
---|---|
Ganwyd | 15 Ebrill 1925 Ponterwyd |
Bu farw | 17 Ebrill 2004 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | gwleidydd |
Swydd | Aelod o Dŷ'r Arglwyddi, Aelod o 50fed Llywodraeth y DU, Aelod o 49fed Llywodraeth y DU, Aelod o 50fed Llywodraeth y DU, Aelod o 48fed Llywodraeth y DU, Aelod o 47fed Llywodraeth y DU, Aelod o 46ed Llywodraeth y DU |
Plaid Wleidyddol | y Democratiaid Rhyddfrydol, Plaid Ryddfrydol |
Tad | David John Howells |
Mam | Mary Blodwen Howells |
Priod | Mary Olwen Hughes |
Plant | Gaenor Wyn Howells, Mari Wyn Howells |
Bu'n Aelod Seneddol dros Aberteifi (1974-1983), ac wedyn, ar ôl i'r etholaeth gael enw newydd, Ceredigion a Gogledd Penfro (1983-1992). Collodd ei sedd yn annisgwyl i Cynog Dafis (Plaid Cymru) yn 1992 a bu hyn yn ergyd galed nid yn unig i Geraint Howells ei hun ond i'r Democratiaid Rhyddfrydol yn gyffredinol yng Nghymru. Cafodd ei wneud yn Arglwydd Geraint o Bonterwyd yr un flwyddyn a bu'n aelod gweithgar o Dŷ'r Arglwyddi.
Senedd y Deyrnas Unedig | ||
---|---|---|
Rhagflaenydd: Elystan Morgan |
Aelod Seneddol dros Geredigion 1974 – 1992 |
Olynydd: Cynog Dafis |