Emanuel Swedenborg

gwyddonydd a diwinydd o Sweden o'r 18fed ganrif (1688-1772)

Athronydd, gwyddonydd, diwinydd a chyfrinydd Cristnogol o Sweden oedd Emanuel Swedenborg (8 Chwefror [29 Ionawr yn yr Hen Ddull] 168829 Mawrth 1772) a ystyrir yn un o'r prif feddylwyr yn nhraddodiad cyfriniol y Gorllewin. Ysgrifennodd nifer o destunau yn yr iaith Ladin, gan gynnwys dehongliadau o'r Ysgrythurau fel gair digyfrwng Duw. Pontiodd ei fywyd a'i waith oesoedd yr Oleuedigaeth a Rhamantiaeth, a châi ei syniadaeth ddylanwad pwysig ar sawl mudiad deallusol a chrefyddol wedi ei farwolaeth. Gelwir ei dysgeidiaeth, sy'n ddiarhebol dywyll a dwfn, yn Swedenborgiaeth, a sefydlwyd Eglwys y Jeriwsalem Newydd ar ei sail.

Emanuel Swedenborg
Ganwyd29 Ionawr 1688 (yn y Calendr IwliaiddEdit this on Wikidata
Stockholm, Jakob and Johannes parish Edit this on Wikidata
Bu farw29 Mawrth 1772 Edit this on Wikidata
o strôc Edit this on Wikidata
Llundain Edit this on Wikidata
DinasyddiaethSweden Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Prifysgol Uppsala Edit this on Wikidata
Galwedigaethffisegydd, athronydd, diwinydd, mathemategydd, cyfrinydd, llenor, gwyddonydd, dyfeisiwr Edit this on Wikidata
Cyflogwr
  • Prifysgol Uppsala Edit this on Wikidata
TadJesper Swedberg Edit this on Wikidata
LlinachSwedenborg Edit this on Wikidata
llofnod

Ganed ef yn Stockholm, yng nghyfnod Ymerodraeth Sweden, i deulu amlwg a chefnog. Ymddisgleiriodd yn ei astudiaethau ers ei flynyddoedd cynnar, a chafodd yrfa lwyddiannus fel gwyddonydd a pheiriannydd. Yn ogystal â'i ymchwil ym maes ffiseg a'i waith mathemategol, dyfeisiodd fodd i adeiladu dociau sych a dyluniodd long danfor gynnar.

Wedi iddo droi'n 30 oed, symudodd ei sylw tuag at athroniaeth a metaffiseg, ac aeth ar daith ysbrydol. Honnodd ei fod wedi cael sawl profiad goruwchnaturiol gan gynnwys gweld angylion ac ysbrydion. Credodd i Dduw ei benodi i ddatguddio gwirionedd y byd ysbrydol a bywyd ar ôl marwolaeth. Ei gampwaith ydy Arcana Caelestia, a gyhoeddwyd mewn wyth cyfrol o 1749 i 1756.

Llyfryddiaeth

golygu
 
Miscellanea de rebus naturalibus, 1911
  • 1716-1718, (Daedalus Hyperboreus) Swedeg: Daedalus Hyperboreus, eller några nya mathematiska och physicaliska försök
  • 1721, Prodromus principiorum rerum naturalium : sive novorum tentaminum chymiam et physicam experimenta geometrice explicandi
  • 1722, Miscellanea de Rebus Naturalibus
  • 1734, Opera Philosophica et Mineralia
    • (Principia, cyf. I) Tomus I. Principia rerum naturlium sive novorum tentaminum phaenomena mundi elementaris philosophice explicandi
    • (Principia, cyf. II) Tomus II. Regnum subterraneum sive minerale de ferro
    • (Principia, cyf. III) Tomus III. Regnum subterraneum sive minerale de cupro et orichalco
  • 1734, Prodromus Philosophiz Ratiocinantis de Infinito, et Causa Finali Creationis; deque Mechanismo Operationis Animae et Corporis.
  • 1744-1745, Regnum animale, 3 volumes
  • 1745, De Cultu et Amore Dei, 2 volumes
  • 1749-1756, Arcana Cœlestia, quae in Scriptura Sacra seu Verbo Domini sunt, detecta., 8 cyf.
  • 1758, De Caelo et Ejus Mirabilibus et de inferno. Ex Auditis et Visis.
  • 1758, De Ultimo Judicio
  • 1758, De Equo Albo de quo in Apocalypsi Cap.XIX.
  • 1758, De Telluribus in Mundo Nostro Solari, quæ vocantur planetæ: et de telluribus in coelo astrifero: deque illarum incolis; tum de spiritibus & angelis ibi; ex auditis & visis.
  • 1758, De Nova Hierosolyma et Ejus Doctrina Coelesti
  • 1763, Doctrina Novæ Hierosolymæ de Domino.
  • 1763, Doctrina Novæ Hierosolymæ de Scrip­tura Sacra.
  • 1763, Doctrina Vitæ pro Nova Hierosolyma ex præceptis Deca­logi.
  • 1763, Doctrina Novæ Hierosolymæ de Fide.
  • 1763, Continuatio De Ultimo Judicio: et de mundo spirituali.
  • 1763, Sapientia Angelica de Divino Amore et de Divina Sapientia. Sapientia Angelica de Divina Providentia
  • 1764, Sapientia Angelica de Divina Providentia
  • 1766, Apocalypsis Revelata, in quae detegunter Arcana quae ibi preedicta sunt.
  • 1768, Deliciae Sapientiae de Amore Conjugiali; post quas sequumtur voluptates insaniae de amore scortatorio.
  • 1769, Summaria Expositio Doctrinæ Novæ Ec­cle­siæ, quæ per Novam Hierosolymam in Apocalypsi intelligitur.
  • 1769, De Commercio Animæ & Corporis.
  • 1771, Vera Christiana Religio, continens Universam Theologiam Novae Ecclesiae
  • 1859, Drömboken, Journalanteckningar, 1743-1744
  • 1983-1997, Diarum, Ubi Memorantur Experiantiae Spirituales.


   Eginyn erthygl sydd uchod am Swedwr neu Swedwraig. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.