Emilia Broomé
Ffeminist a swffragét o Sweden oedd Emilia Broomé (13 Ionawr 1866 - 2 Mehefin 1925); roedd hefyd yn wleidydd, yn athrawes ysgol uwchradd ac yn fredspolitiker. Ei henw llaw oedd Emilia Augusta Clementina Broomé, née Lothigius. Yn 1914, fe'i hetholwyd, fel y ferch gyntaf, i Gynulliad Cenedlaethol Sweden.
Emilia Broomé | |
---|---|
Ganwyd | 13 Ionawr 1866 Jönköpings Sofia church parish |
Bu farw | 2 Mehefin 1925 Kungsholm |
Dinasyddiaeth | Sweden |
Alma mater | |
Galwedigaeth | gwleidydd, gwleidydd lleol, Q106580697, fredspolitiker, female supporter of women's right to vote, ymgyrchydd dros bleidlais i ferched, Q111363944 |
Swydd | city council member, aelod o fwrdd, cadeirydd, cadeirydd, cadeirydd, aelod o fwrdd, cadeirydd |
Plaid Wleidyddol | Liberal Party of Sweden, Cymdeithas Genedlaethol y Meddwl Rhydd |
Tad | Isak Lothigius |
Plant | Birgit Broomé |
Gwobr/au | Gwobr Illis Quorum |
Fe'i ganed yn Jönköpings församling ar 13 Ionawr 1866; bu farw yn ninas Stockholm ac fe'i claddwyd ym "Mynwent y Gogledd".[1][2][3][4][5][6][7]
Magwraeth
golyguWedi cyfnod yn astudio yn yr ysgol leol i fenywod, cafodd radd yn 'Wallinska skolan' ym 1883 a graddiodd mewn athroniaeth a meddygaeth yn Uppsala ym 1884. Wedi hynny, fe'i cyflogwyd yn athrawes yn ysgol Anna Whitlock yn Stockholm. [8][9][10]
Yr addysgwraig
golyguHi oedd cadeirydd Stockholmsföreningen o blaid kvinnans politiska rösträtt (sef Cangen Stockholm o Gymdeithas Genedlaethol Etholfraint y Menywod) o'i sefydlu ym 1902 hyd at 1906. Roedd yn aelod o fwrdd cyfarwyddwyr y CSA (Y Gymdeithas Lles Cymdeithasol) rhwng 1904 –1925, ac yn aelod o Gyfarwyddiaeth Addysg Stockholm.
Heddwch
golyguSefydlodd a bu'u gadeirydd Undeb Heddwch Menywod Sweden, o 1898 nes iddi uno ag Undeb Heddwch Sweden ym 1911, a gweithredodd hefyd fel cynrychiolydd Sweden yn y gynhadledd heddwch ryngwladol yn Haag yn 1899.
Y gwleidydd
golyguEnwebwyd Emilia Broomé ar gyfer etholiad Cyngor Dinas Stockholm yn 1910 ac yn 1911. Fe'i hetholwyd i gyngor y ddinas yn ystod yr ail etholiad a gwasanaethodd rhwng 1911–1924. Hi oedd cadeirydd y merched rhyddfrydol 1917–1920.
Emilia Broomé oedd y fenyw gyntaf o Sweden i fod yn rhan o bwyllgor deddfwriaethol gwladwriaeth Sweden (Lagberedningen), a oedd yn paratoi cyfreithiau newydd a bu'n aelod o'r pwyllgor rhwng 1914–1918. Cymerodd ran yn y gwaith o ysgrifennu'r gyfraith briodas ddiwygiedig ym 1920, lle cafodd dynion a merched eu gwneud yn gyfartal yn llygad y gyfraith, a lle datganwyd bod y fenyw briod yn cael yr hawl i bleidleisio, yn cael cyflog cyfartal (1921) ac yn rhoi'r hawl i fenywod i gael eu cyflogi ym mhob proffesiwn swyddogol yn 1923.
Aelodaeth
golyguBu'n aelod o Gymdeithas Stockholm ar gyfer Hawl Gwleidyddol y Merched i Bleidleisio, a'r Undeb Ganolog ar gyfer Gwaith Cymdeithasol am rai blynyddoedd.
Anrhydeddau
golygu- Dros y blynyddoedd, derbyniodd nifer o anrhydeddau, gan gynnwys: Gwobr Illis Quorum (1916) .
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Cyffredinol: LIBRIS. dyddiad cyhoeddi: 26 Mawrth 2018. dyddiad cyrchiad: 24 Awst 2018. http://www2.ub.gu.se/kvinndata/portaler/rostratt/pdf/rostrattsfragan.pdf.
- ↑ Disgrifiwyd yn: "Emilia Augusta Clementina Broomé". dyddiad cyrchiad: 24 Gorffennaf 2020. http://www2.ub.gu.se/kvinndata/portaler/rostratt/pdf/rostrattsfragan.pdf.
- ↑ Rhyw: http://www2.ub.gu.se/kvinndata/portaler/rostratt/pdf/rostrattsfragan.pdf.
- ↑ Dyddiad geni: "Emilia A C Broomé (f. Lothigius)". dynodwr Bywgraffiadur Sweden: 17035. dyddiad cyrchiad: 27 Mawrth 2017. tudalen: 449. "Emilia A C Broomé (f. Lothigius)". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Emilia Broome". Cyrchwyd 9 Hydref 2017.
- ↑ Dyddiad marw: "Emilia A C Broomé (f. Lothigius)". dynodwr Bywgraffiadur Sweden: 17035. dyddiad cyrchiad: 27 Mawrth 2017. tudalen: 449. "Emilia A C Broomé (f. Lothigius)". dynodwr Bywgraffiadur Sweden: 17035. "Emilia Broome". Cyrchwyd 9 Hydref 2017.
- ↑ Man geni: "Emilia A C Broomé (f. Lothigius)". dynodwr Bywgraffiadur Sweden: 17035. dyddiad cyrchiad: 27 Mawrth 2017. tudalen: 449. "Jönköpings Kristina (F) C:10 (1866-1879) Bild 11".
- ↑ Man claddu: "Broomé, EMILIA AUGUSTA E." Cyrchwyd 27 Mawrth 2017.
- ↑ Galwedigaeth: "Emilia A C Broomé (f. Lothigius)". dynodwr Bywgraffiadur Sweden: 17035. dyddiad cyrchiad: 27 Mawrth 2017. tudalen: 449. "Emilia Augusta Clementina Broomé". dyddiad cyrchiad: 24 Gorffennaf 2020. "Emilia A C Broomé (f. Lothigius)". dynodwr Bywgraffiadur Sweden: 17035. dyddiad cyrchiad: 27 Mawrth 2017. tudalen: 449. "Emilia A C Broomé (f. Lothigius)". dynodwr Bywgraffiadur Sweden: 17035. dyddiad cyrchiad: 27 Mawrth 2017. tudalen: 449. "Emilia A C Broomé (f. Lothigius)". dynodwr Bywgraffiadur Sweden: 17035. dyddiad cyrchiad: 27 Mawrth 2017. tudalen: 449. "Emilia Augusta Clementina Broomé". dyddiad cyrchiad: 24 Gorffennaf 2020. "Emilia Augusta Clementina Broomé". dyddiad cyrchiad: 24 Gorffennaf 2020.
- ↑ Swydd: https://gupea.ub.gu.se/bitstream/handle/2077/362/rfkv1917_07_01_06.pdf?sequence=1&isAllowed=y. "Emilia A C Broomé (f. Lothigius)". dynodwr Bywgraffiadur Sweden: 17035. dyddiad cyrchiad: 27 Mawrth 2017. tudalen: 449. "Emilia A C Broomé (f. Lothigius)". dynodwr Bywgraffiadur Sweden: 17035. dyddiad cyrchiad: 27 Mawrth 2017. tudalen: 449.
- ↑ Aelodaeth: "Emilia Augusta Clementina Broomé". dyddiad cyrchiad: 24 Gorffennaf 2020. "Till regeringen från svenska kvinnor ingifna skrifvelser i rösträttsfrågan 1905-1906" (PDF). 1906. Cyrchwyd 3 Tachwedd 2020. "Emilia Augusta Clementina Broomé". dyddiad cyrchiad: 24 Gorffennaf 2020. "Emilia Augusta Clementina Broomé". dyddiad cyrchiad: 24 Gorffennaf 2020.