Gwleidydd, cyfreithiwr, a llenor Wrwgwaiaidd oedd Emilio Frugoni (30 Mawrth 188028 Awst 1969). Sefydlodd Blaid Sosialaidd Wrwgwái, a mynegodd ei syniadau gwleidyddol yn ei ysgrifeniadau, gan gynnwys Socialismo, batllismo y nacionalismo (1928), La revolución del machete (1935), Ensayos sobre marxismo (1936), a Génesis, esencia y fundamentos del socialismo (1947). Cyhoeddodd 12 cyfrol o farddoniaeth delynegol.

Emilio Frugoni
FfugenwUrgonif, Imulio Urgonif, Tritón Edit this on Wikidata
GanwydEmilio Frugoni Queirolo Edit this on Wikidata
30 Mawrth 1880 Edit this on Wikidata
Montevideo Edit this on Wikidata
Bu farw28 Awst 1969 Edit this on Wikidata
Montevideo Edit this on Wikidata
DinasyddiaethWrwgwái Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Universidad de la República Edit this on Wikidata
Galwedigaethnewyddiadurwr, diplomydd, ysgrifennwr, cyfreithiwr, athro, gwleidydd, bardd Edit this on Wikidata
SwyddMember of the Chamber of Deputies of Uruguay, llysgennad Edit this on Wikidata
Cyflogwr
  • Universidad de la República Edit this on Wikidata
Plaid WleidyddolPlaid Sosialaidd Wrwgwai Edit this on Wikidata

Er ei daliadau Marcsaidd, roedd Frugoni yn cefnogi'r Arlywydd José Batlle y Ordóñez (1903–07, 1911–15), arweinydd y Partido Colorado, a chanddi ideoleg ryddfrydach. Dadleuodd Frugoni o blaid diwygiadau moesol Batlle, gan gynnwys cyfreithloni ysgariad a diddymu'r gosb eithaf, yn ogystal â chefnogaeth dros y mudiad llafur, gweithiau cyhoeddus, ac adeiladau ysgolion. Yn 1910, cefnogodd Frugoni y llywodraeth yn erbyn bygythiad chwyldro gan y Partido Blanco a'r Radicalwyr.[1]

Dadleuodd Frugoni ers 1904 dros ffurfio mudiad sosialaidd i drefnu'r gweithwyr yn wleidyddol, a sefydlwyd y Blaid Sosialaidd ganddo yn 1910. Ysgrifennodd faniffesto'r blaid, gan ddatgan ei chefnogaeth dros y cyfansoddiad a'r drefn wleidyddol yn hytrach nag ymgyrchoedd chwyldroadol a threisgar yr anarchwyr. Etholwyd Frugoni i'r gyngres genedlaethol ar gyfer y tymor 1911–14, a chydweithiodd gyda'r Arlywydd Batlle wrth ddeddfu dros les y dosbarth gweithiol.[1]

Penodwyd Frugoni yn ddeon Prifysgol y Weriniaeth yn 1933. Gwasanaethodd yn llysgennad Wrwgwái i'r Undeb Sofietaidd o 1945 i 1948, ac ysgrifennodd lyfr am ei brofiadau, La esfinge roja (1948), sy'n canmol datblygiadau'r Sofietiaid ond yn mynegi pryder am gamdriniaethau hawliau dynol yn y wlad.[1]

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 1.2 (Saesneg) "Frugoni, Emilio (1880–1969)" yn Encyclopedia of Latin American History and Culture (Gale, 2008). Adalwyd ar 26 Ebrill 2019.

Darllen pellach golygu

  • Gerardo Giudice, Frugoni (Montevideo: Proyección, 1995).
  • Milton I. Vanger, The Model Country: José Batlle y Ordóñez of Uruguay, 1907–1915 (1980).