Mae telyneg yn gerdd fer, gryno a didwyll, bersonol ei naws, sydd fel rheol yn canolbwyntio ar un testun uniongyrchol ac ymateb y bardd iddo. Cysylltir y delyneg â chanu serch a chanu natur, yn enwedig o safbwynt personol a/neu Rhamantaidd.

Ceir traddodiad hir o ganu telynegol yng Ngroeg yr Henfyd a Rhufain, ac mae telynegion Lladin yn elfen amlwg ym marddoniaeth yr Oesoedd Canol.

Yng Nghymru mae sawl un o'r Hen Benillion yn delynegion perffaith. Benthycwyd ac addaswyd traddodiad y penillion hyn gan emynwyr y 18g, yn enwedig Williams Pantycelyn. Mae meistri mawr ar y delyneg yn y ganrif olynol yn cynnwys John Blackwell (Alun), Ieuan Glan Geirionnydd a Ceiriog. Yn yr 20g gellid crybwyll Eifion Wyn a W. J. Gruffydd.