Roedd Emily Rose Bleby (2 Mehefin 18493 Mai 1917) yn ddiwygiwr cymdeithasol a oedd yn weithgar yn y mudiad dirwestol Prydeinig. Cyfrannai'n aml i gyfnodolion ar ddirwest a phynciau cyffredinol.

Emily Rose Bleby
Ganwyd1849, 2 Mehefin 1849 Edit this on Wikidata
Colony of Jamaica Edit this on Wikidata
Bu farw1917, 3 Mai 1917 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Jamaica Jamaica Baner Y Deyrnas Unedig Y Deyrnas Unedig
Galwedigaethllenor, awdur ffeithiol, gweithiwr cymedrolaeth Edit this on Wikidata
TadHenry Bleby Edit this on Wikidata

Cafodd Bleby ei geni yn y Wladfa yn Jamaica, India'r Gorllewin Prydeinig , aelod o deulu diddymwyr. Roedd ei thad, y Parch. Henry Bleby (1809–1882), yn genhadwr gyda'r Methodistiaid Wesleaidd a weithiodd am 46 mlynedd yn Y Caribî; roedd e'n awdur toreithiog. Mam Emily oedd Sarah Bassillia (Quarrell) Bleby (g. 1817). Cafodd hi amryw frodyr, yn gynnwys John, Richard, William, Henry ac Edward. Roedd Alicia yn un o'i chwiorydd. [1] [2]

Cafidd Bleby ei magu yn Llundain, Lloegr. Symudodd i Gaerdydd yn yr 1890au.[3] Ysgrifennodd yn y cylchgrawn Young Wales.[4]

Ym 1912, dechreuodd Bleby ddioddef o'r Parlys agitans. Symudodd o Lundain i Benarth, lle roedd hi'n byw yn 153 Stanwell Road.[5] Parhaodd i wneud gwaith da dros y gymuned hyd ei marwolaeth.

Bu hi farw ym Mhenarth ar 3 Mai 1917.[5]

Cyfeiriadau

golygu
  1. "Emily Rose Bleby 2 June 1849 – 3 May 1917 • LZ2R-MJJ". ident.familysearch.org. Cyrchwyd 23 Gorffennaf 2022.
  2. "Bleby, Henry, and family". DMBI: A Dictionary of Methodism in Britain and Ireland. Cyrchwyd 23 Gorffennaf 2022.
  3. "POOR-LAW GUARDIANS". Western Mail (yn Saesneg). 6 Rhagfyr 1894. Cyrchwyd 23 Gorffennaf 2022 – drwy Newspapers.com.
  4. Masson, Ursula (1 Chwefror 2010). For Women, For Wales and For Liberalism: Women in Liberal Politics in Wales 1880–1914 (yn Saesneg). University of Wales Press. ISBN 978-0-7083-2254-3. Cyrchwyd 23 Gorffennaf 2022.
  5. 5.0 5.1 "EMILY ROSE BLEBY. Deceased." (yn en). The London Gazette (Tho. Newcomb). 12 Mehefin 1917. https://books.google.com/books?id=8Vw7AQAAMAAJ&pg=PA5783. Adalwyd 23 Gorffennaf 2022.