Emma Abbott
actores a aned yn 1850
Soprano operatig ac impresario Americanaidd oedd Emma Abbott (9 Rhagfyr 1850 – 5 Ionawr 1891). Fe'i ganwyd yn Chicago[1] ac astudiodd yn Efrog Newydd, Milano a Pharis. Dechreuodd ei gyrfa fel cantores yn Llundain ond collodd ei swydd ar ôl iddi wrthod canu La traviata gan Giuseppe Verdi oherwydd roedd yn anfoesol. Yn Efrog Newydd y flwyddyn ganlynol fe'i beirniadwyd am iddi fynnu mewnosod emynau mewn operâu. Creodd ei chwmni theatr llwyddiannus ei hun ym 1878.
Emma Abbott | |
---|---|
Emma Abbott, tua 1870 | |
Ganwyd | 9 Rhagfyr 1850 Chicago |
Bu farw | 5 Ionawr 1891 Salt Lake City |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America |
Galwedigaeth | actor, impresario, canwr, canwr opera, actor llwyfan |
Arddull | opera |
Math o lais | soprano coloratwra |
Priododd â Eugene Wetherell.[2]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Johnson, Rossiter, gol. (1906). "Abbott, Emma". The Biographical Dictionary of America (yn Saesneg). 1. Boston: American Biographical Society. tt. 26–27. Cyrchwyd 17 Hydref 2020. Mae'r erthygl yn ymgorffori testun o'r ffynhonnell hwn, sydd yn y parth cyhoeddus.
- ↑ Martin, Sadie E. (1891). The Life and Professional Career of EMMA ABBOTT (yn Saesneg).