Milan
Mae Milan (Lombardeg: Milan; Eidaleg: Milano) yn un o ddinasoedd mwyaf Yr Eidal a phrifddinas talaith Lombardi, yng ngogledd yr Eidal. Mae gan y ddinas ei hun (Comune di Milano) boblogaeth o 1,242,123 (cyfrifiad 2011).[1]
![]() | |
![]() | |
Math |
cymuned yn yr Eidal, dinas ![]() |
---|---|
| |
Poblogaeth |
1,366,180 ![]() |
Pennaeth llywodraeth |
Giuseppe Sala ![]() |
Cylchfa amser |
UTC+01:00, CET, UTC+2 ![]() |
Gefeilldref/i | |
Nawddsant |
Emrys Sant ![]() |
Iaith/Ieithoedd swyddogol |
Eidaleg ![]() |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol |
Milan metropolitan area ![]() |
Sir |
Metropolitan City of Milan ![]() |
Gwlad |
![]() |
Arwynebedd |
181.67 ±0.01 km² ![]() |
Uwch y môr |
120 ±1 metr ![]() |
Gerllaw |
Naviglio della Martesana ![]() |
Yn ffinio gyda |
Assago, Arese, Baranzate, Bresso, Buccinasco, Cesano Boscone, Cologno Monzese, Corsico, Cormano, Cusago, Novate Milanese, Opera, Pero, Peschiera Borromeo, Rho, Rozzano, San Donato Milanese, Segrate, Sesto San Giovanni, Settimo Milanese, Trezzano sul Naviglio, Vimodrone ![]() |
Cyfesurynnau |
45.4669°N 9.19°E ![]() |
Cod post |
20121, 20122, 20123, 20124, 20125, 20126, 20127, 20128, 20129, 20131, 20132, 20133, 20134, 20135, 20136, 20137, 20138, 20139, 20141, 20142, 20143, 20144, 20145, 20146, 20147, 20148, 20149, 20151, 20152, 20153, 20154, 20155, 20156, 20157, 20158, 20159, 20161, 20162 ![]() |
Gwleidyddiaeth | |
Corff deddfwriaethol |
City Council of Milan ![]() |
Swydd pennaeth y Llywodraeth |
Maer Milan ![]() |
Pennaeth y Llywodraeth |
Giuseppe Sala ![]() |
![]() | |
Sefydlwyd y ddinas tua 400 CC gan lwyth Celtaidd yr Insubres. Concrwyd yr ardal gan y Rhyfeiniaid yn 222 CC; yr adeg yma Mediolanum oedd enw'r ddinas. Cyhoeddwyd Milan yn brifddinas yr Ymerodraeth Rufeinig yn y gorllewin gan yr ymerawdwr Diocletian yn 293 OC.. Symudwyd y brifddinas i Ravenna yn 402 pan oedd y Fisigothiaid yn gwarchae ar Milan. Cipiwyd y ddinas gan yr Hyniaid yn 452 a gan yr Ostrogothiaid yn 539. Wedi sefydlu Cynghrair Lombardi yn 1167, daeth Milan i arwain y cynghrair, a daeth yn Ddugiaeth yn 1183.
Mae un o'r dinasoedd cyfoethocaf yn yr Undeb Ewropeaidd ac yn adnabyddus fel canolfan ffasiwn. Mae'n gartref Cyfnewidfa Stoc yr Eidal ac yn leoliad pencadlys llawer o gwmniau enwog megis Alfa Romeo, Giorgio Armani, Gucci, Prada a Gianni Versace. Yr eglwys gadeiriol, y Duomo di Milano yw'r ail-fwyaf yn y byd. Adeilad pwysig arall yw Teatro alla Scala neu "La Scala", un o ganolfannau Opera mawr y byd. Mae dau dîm peldroed enwog yn y ddinas, A.C. Milan ac Internazionale (Inter Milan).
Adeiladau a chofadeiladauGolygu
EnwogionGolygu
- Giuseppe Sammartini (1695–1750), cyfansoddwr
- Alessandro Manzoni (1785–1873), bardd a nofelydd
- Giulia Grisi (1811–1869), cantores opera
- Nino Rota (1911–1979), cyfansoddwr
- Enrico Baj (1924–2003), arlunydd
- Valentina Cortese (g. 1925), actores
- Claudio Abbado (1933–2014), cerddor
- Gian Maria Volontè (1933–1994), actor
- Greta Scacchi (g. 1960), actores
- Lu Colombo (g. 1952), cantores
- Benedicta Boccoli (g. 1966), actores
- Francesca Schiavone (g. 1980), chwaraewraig tenis
CyfeiriadauGolygu
- ↑ City Population; adalwyd 8 Mai 2018