Person sy'n trefnu ac yn ariannu operâu, cyngherddau neu ddramâu yw impresario. Daw'r gair o'r Eidaleg, "rhywun sy'n ymgymryd â menter".[1]

Impresario
Enghraifft o'r canlynolgalwedigaeth ym myd adloniant Edit this on Wikidata
Mathcyfarwyddwr artistig (cerddoriaeth), rheolwr theatr, gweithredwr mewn busnes, cynhyrchydd Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Mae'r enw yn deillio o fyd opera yn yr Eidal y 18g. Wrth i opera ddod yn fwyfwy poblogaidd yn y wlad honno, byddai perchnogion theatrau, fel arfer amaturiaid o blith yr uchelwyr, yn penodi unigolyn, sef yr impresario, i wneud yr holl drefniadau ymarferol ar gyfer tymor. Byddai’r impresario'n llogi cyfansoddwr (tan y 1850au roedd disgwyl i bob opera fod yn rhai newydd) yn ogystal â chantorion, cerddorfa, gwisgoedd a setiau. Byddai'n cymryd risg ariannol sylweddol. Darlunnir straen ac anhrefn y broses hon yn opera gomig Der Schauspieldirektor ("Yr Impresario", K486, 1786) gan Mozart.

Defnyddir yr enw o hyd yn y diwydiant adloniant i gyfeirio at berson sy'n trefnu digwyddiadau.

Roedd Antonio Vivaldi yn impresario enwog.[2]

Cyfeiriadau golygu

  1. "Definition of impresario". Merriam-Webster (yn Saesneg). Cyrchwyd 22 Mawrth 2022.
  2. Bagnoli, Giorgio (1993). The La Scala encyclopedia of the opera (yn Saesneg). Efrog Newydd: Simon & Schuster. t. 364. ISBN 9780671870423.