Emylsiwn

(Ailgyfeiriad o Emwlsiwn)

Cyfuniad o ddau hylif anghysmysgadwy ac un ohonynt ar ffurf mân ddafnau wedi eu gwasgaru o fewn y llall yw emylsiwn[1] neu emwlsiwn.[2] Cynhyrchir emylsiynau mewn nifer o ddiwydiannau a meysydd gwyddonol, ar gyfer lliwio, trin lledr, gwneuthuro rwber synthetig a phlastigion, cosmetigau, a chynnyrch therapiwtig.[3]

Cyfeiriadau golygu

  1. Geiriadur yr Academi, [emulsion].
  2.  emwlsiwn. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 28 Mai 2017.
  3. (Saesneg) emulsion (chemistry). Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 28 Mai 2017.
  Eginyn erthygl sydd uchod am gemeg. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.