Emyr Davies
gweinidog (MC) a bardd
Bardd Cymraeg oedd Hugh Emyr Hughes Davies (31 Mai 1878 – 21 Tachwedd 1950). Roedd yn frodor o blwyf Llannor, Llŷn (Gwynedd).
Emyr Davies | |
---|---|
Ganwyd | 31 Mai 1878 Aber-erch |
Bu farw | 21 Tachwedd 1950 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | bardd |
Daeth yn brifardd yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Caernarfon 1906 pan enillodd y Goron am ei bryddest 'Branwen ferch Llŷr', cerdd ramantaidd am chwedl Branwen yn y Mabinogi. Enillodd y Goron am yr ail dro yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Llangollen 1908 am y gerdd 'Owain Glyn Dŵr'.
Telynegol a rhamantaidd yw ei gerddi ar y cyfan. Yn nodweddiadol o'r cyfnod, mae llawer ohonynt yn ymwneud â hanes a chwedlau Cymru.
Llyfryddiaeth
golygu- Llwyn Hudol (1907).