Emyr Wyn

actor a aned yn 1952

Actor a chanwr yw Emyr Wyn (ganwyd Medi 1952). Mae'n fwyaf adnabyddus am chwarae y cymeriad Dai 'Sgaffalde' ym Mhobol y Cwm.[1]

Emyr Wyn
Ganwyd1952 Edit this on Wikidata
Caerfyrddin Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethactor, canwr Edit this on Wikidata

Bywyd cynnar

golygu

Ganwyd Emyr Wyn Evans yng Nghaerfyrddin. Fe wnaeth ei enw yn ifanc iawn fel canwr soprano pan oedd yn ddisgybl yn Ysgol Ramadeg Llanelli, gan ryddhau sawl record yn cynnwys 'Llais Swynol Emyr Wyn'[2]. Yn 1974 fe roedd yn aelod cychwynnol o'r grŵp gwerin Mynediad am Ddim.[3]

Ar ddiwedd yr 1970au roedd Emyr Wyn yn un o gyflwynwyr y rhaglen deledu i blant, Yr Awr Fawr. Fe ymddangosodd fel y cymeriad Sam Crosby yn y ffilm deledu Y Dyn 'Nath Ddwyn y Dolig (1985). Chwareodd ran y Parchedig J.S. Jones ar y comedi sefyllfa Teulu'r Mans. Ar ddechrau'r 1990au roedd yn un o'r perfformwyr ar y rhaglen ddychan Pelydr X ar S4C.[4]

Yn 2004 fe ymunodd a'r opera sebon Pobol y Cwm gan chwarae cymeriad Dai 'Sgaffalde' Ashurst.

Dolenni allanol

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. Cofio - Emyr Wyn, S4C; Adalwyd 2015-12-29
  2. "Emyr Wyn ar wefan Sain; Adalwyd 2015-12-29". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-09-18. Cyrchwyd 2015-12-29.
  3. Mynediad am Ddim yn 40 oed, BBC Cymru, 9 Awst 2014; Adalwyd 2015-12-29
  4. CV Geraint Lewis Archifwyd 2016-06-29 yn y Peiriant Wayback; Adalwyd 4 Ionawr 2016


   Eginyn erthygl sydd uchod am Gymro neu Gymraes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.