Mae Eneida (Wcreineg: Енеїда, Wcraineg am "Aenid") yn gerdd bwrlesg Wcreineg, a ysgrifennwyd gan Ivan Kotliarevsky ym 1798. Ystyrir y gerdd ffug-arwrol hon fel y gwaith llenyddol cyntaf i'w gyhoeddi'n gyfan gwbl yn yr iaith Wcreineg fodern. Er bod Wcreineg yn iaith bob dydd i filiynau o bobl yn yr Wcrain, roedd anogaeth swyddogol i beidio â'i defnyddio yn llenyddol yn yr ardal dan reolaeth Rwsia Ymerodrol.[1]

Yr argraffiad cyntaf o Eneyida gan Kotlyarevsky, 1798.

Parodi o Aenid Virgil yw Eneida, lle trawsnewidiodd Kotliarevsky yr arwyr Troeaidd yn Gosaciaid Zaporizhzhia.[2] Mae beirniaid llenyddol yn credu i'r gredd gael ei hysgrifennu yng ngoleuni dinistr Zaporozhian Host drwy orchymyn Catherine Fawr. Ysgrifennwyd y gerdd yn ystod ffurfio rhamantiaeth a chenedlaetholdeb yn Ewrop. Bryd hynny, roedd gan rhan o elitiaid Wcrain hiraeth am wladwriaeth Gosacaidd, a ddiddymwyd gan Rwsia ym 1775–1786.

Cyhoeddwyd tair rhan gyntaf y gerdd yn 1798 yn St. Petersburg, heb yn wybod i'r awdur. Cyhoeddwyd yr Eneida cyflawn ar ôl marwolaeth Kotliarevsky yn 1842.

Mae'r gerdd ar restr 100 uchaf "O Skvoroda i'r cyfnod modern: 100 celf greadigol bwysicaf mewn Wcreineg".[3]

Cyfeiriadau golygu

  1. [Documents on prohibition of the Ukrainian language] |trans-title= requires |title= (help). Ridivira. 2016-05-10 https://web.archive.org/web/20160819125540/http://ridivira.com/uk/buttia-ukraintsiv/397-dokumenty-pro-zaboronu-ukrainskoi-movy |archiveurl= missing title (help). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-08-19. Cyrchwyd 2016-08-19.
  2. "Eneyida | work by Kotlyarevsky". Encyclopedia Britannica (yn Saesneg). Cyrchwyd 2020-05-30.
  3. "Від Сковороди до сьогодення: 100 знакових творів українською мовою". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-09-29. Cyrchwyd 2023-03-17.