Fyrsil
Roedd Publius Vergilius Maro, Fyrsil neu Fferyll yn Gymraeg (15 Hydref 70 CC – 21 Medi 19 CC) yn fardd yn yr iaith Ladin sydd yn fwyaf adnabyddus am gyfansoddi'r arwrgerdd Yr Aeneid. Mae'r gerdd yn efelychu arwrgerddi'r bardd Groeg cynnar Homeros ac yn adrodd hanes yr arwr Aeneas, a ddihangodd o Gaerdroea i sefydlu dinas a oedd yn rhagflaenydd i Rufain. Comisiynwyd y gerdd gan yr ymerawdwr Cesar Awgwstws er mwyn hyrwyddo'r Ymerodraeth Rufeinig newydd. Mae gweithiau eraill Fyrsil yn cynnwys yr Eclogae a'r Georgicon.
Fyrsil | |
---|---|
Ganwyd | 15 Hydref 70 CC Andes |
Bu farw | Brindisi |
Dinasyddiaeth | Rhufain hynafol |
Galwedigaeth | bardd, ysgrifennwr |
Adnabyddus am | Bugeilgerddi Fyrsil, Georgics, Aenid |
Arddull | arwrgerdd, pastoral poetry |
Prif ddylanwad | Aulus Furius Antias, Homeros, Theocritos |
Mudiad | Augustan poetry |
Mam | Magia Polla |
Perthnasau | Vergilia Vera |
Gwaith Fyrsil
golygu- Bucolica, neu'r Eclogae, mewn 10 llyfr, sy'n fugeilgerddi.
- Georgicon, mewn 4 llyfr, sy'n ymdrin ag amaethyddiaeth.
- Aeneidos, mewn 12 llyfr.
Mae nifer o gerddi llai yn cael eu priodoli iddo dan yr enw Appendicis Vergilianae:
Fyrsil yn yr Oesoedd Canol
golyguYn yr Oesoedd Canol ystyrid Fyrsil yn fardd cynddelwrol a osodododd sylfeini'r grefft farddol. Credid yn ogystal ei fod yn fath o ddewin neu broffwyd a ragwelodd ddyfodiad Crist.
Cyfieithiadau
golyguYm 1636 cyfieithwyd testun gan Fyrsil gan yr awdur a'r dramodydd Syr John Denham, o'r enw The Destruction of Troy, An Essay upon the Second Book of Virgils Æneis, ond ni chafodd ei gyhoeddi tan 1656.