Gwaith llenyddol, dramatig, neu gerddorol a greir gyda'r bwriad o ddifyrru ac achosi chwerthin ydy bwrlésg. Gwneir hyn drwy ddychanu arddull neu anian gweithiau difrifol.[1] Daw'r gair o'r Eidaleg burlesco, sy'n tarddu o'r gair Eidaleg burla – jôc, gwawd neu watwar.

Bwrlésg
Enghraifft o'r canlynolgenre comedi Edit this on Wikidata
Mathcomedi Edit this on Wikidata
Rhagflaenwyd ganVaudeville Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Dita Von Teese, un o berfformwyr bwrlésg mwyaf blanellaw yr 21ain ganrif

O ran ystyr, mae'r term bwrlésg yn gorgyffwrdd â dychan, parodi a gwawdlun ac yn ei ystyr theatraidd, gyda'r strafagansa a welwyd yn ystod y cyfnod Fictorianaidd.[2] Mae'r enw burlesque wedi cael ei ddefnyddio yn Saesneg mewn cyd-destun llenyddol a theatraidd ers diwedd y 17g. Wrth edrych yn ôl, mae'r enw wedi cael ei ddefnyddiuo ar gyfer gweithiau Chaucer a Shakespeare ac i'r clasuron Groegaidd-Rufeinig.[3] Mae enghreifftiau cyferbyniol o bwrlésg llenyddol yn cynnwys The Rape of the Lock gan Alexander Pope a Hudibras gan Samuel Butler. Esiampl o fwrlésg cerddorol ydy Burleske for piano and orchestra (1890) gan Richard Strauss. Mae enghreifftiau o theatr bwrlésg yn cynnwys Robert the Devil gan W. S. Gilbert a sioeau A. C. TorMeyer Lutz fel Ruy Blas and the Blasé Roué.

Mae defnydd mwy diweddar o'r term, yn enwedig yn yr Unol Daleithiau yn cyfeirio at fformat sioe amrywiol. Roedd rhain yn arbennig o boblogaidd rhwng y 1860au a'r 1940au, yn aml mewn clybiau cabaret, yn ogystal â theatrau, ac yn aml roeddent yn cynnwys stripio coch. Ceisiodd rai o ffilmiau Hollywood i ailgreu awyrgylch y perfformiadau hyn mewn ffilmiau rhwng y 1930au a'r 1960au, yn cynnwys Cabaret ac All That Jazz yn 1979. Gwelwyd twf mawr yn niddordeb pobl yn y fformat hwn ers y 1990au.

Bwrlesg Americanaidd ar Ben-Hur, tua 1900.

Cyfeiriadau golygu

  1. "Burlesque", Oxford English Dictionary, Gwasg Prifysgol Rhydychen, adalwyd 16 Chwefror 2011
  2. Fowler, H. W., diwygiwyd gan Syr Ernest Gowers (1965). Modern English Usage. Rhydychen: Gwasg Prifysgol Rhydychen, td. 68 and 96
  3. Baldick, Chris. "Burlesque", The Oxford Dictionary of Literary Terms, Gwasg Prifysgol Rhydychen, 2008. Oxford Reference Online. Gwasg Prifysgol Rhydychen, adalwyd ar 16 Chwefror 2011

Dolenni allanol golygu