Enguerrand VII de Coucy
Uchelwr o Ffrainc oedd Enguerrand VII de Coucy (1339 – 1397), seigneur de Coucy. Roedd yn fab i Enguerrand VI de Coucy a'i wraig Catherine o Awstria, merch Leopold I, Dug Awstria.
Enguerrand VII de Coucy | |
---|---|
Ganwyd | 1339 Unknown |
Bu farw | 18 Tachwedd 1397 Bursa |
Dinasyddiaeth | Ffrainc |
Galwedigaeth | condottieri, person milwrol |
Swydd | aelod o Dŷ'r Arglwyddi |
Tad | Enguerrand VI, Lord of Coucy |
Mam | Catherine of Austria, Lady of Coucy |
Priod | Isabella de Coucy, Isabelle of Lorraine |
Plant | Isabel de Coucy, Marie I de Coucy, Countess of Soissons, Philippa de Coucy |
Gwobr/au | Urdd y Gardas |
Cofnodir i Enguerrand fod yn bresennol ym Mrwydr Poitiers yn 1356, pan gymerwyd brenin Ffrainc, Jean II le Bon yn garcharor gan Edward, y Tywysog Du. Pan ddechreuodd y trafodaethau am delerau rhyddhau'r brenin, roedd Enguerrand yn un o'r gwystlon a anfonwyd i Lundain. Enillodd ffafr y brenin Edward III, a roddodd ei ferch Isabelle (1332-1382) iddo mewn priodas.
Daeth i amlygrwydd yn gwrthwynebu gwrthryfel y Jacquerie yn 1358. Roedd ganddo hawl i diriogaethau yn y Swistir ac Awstria fel etifeddiaeth ei fam, ac yn 1375 cyflogodd fyddin o filwyr hur, yn cynnwys Owain Lawgoch a'i gwmni, i geisio eu hennill iddo yn yr hyn a elwir yn Rhyfel y Gugler. Methodd yr ymgais oherwydd gwrthwynebiad ffyrnig y Swisiaid. Yn 1377, roedd yn ymladd dros frenin Ffrainc yn erbyn y Saeson wedi i'r brwydro yn y Rhyfel Can Mlynedd ail-ddechrau.
Yn 1396, aeth ar groesgad gyda Sigismond o Luxembourg yn erbyn y Twrciaid. Gorchfygwyd y Cristionogion gan y Twrciaid dan y Swltan Bayazid I ym Mrwydr Nicopolis, ar y 25 neu 28 Medi, a chymerwyd Enguerrand yn garcharor. Bu farw yn garcharor yn gynnar y flwydduyn ddilynol, un ai o'i gwyfau neu o'r Pla Du.