Bursa
dinas yn Nhwrci
Dinas hynafol yng ngorllewin Twrci yw Bursa. Dyma Prusa neu Brusa yr Henfyd (Groeg: Προύσα, Prousa). Mae'n brifddinas y dalaith o'r un enw. Gyda phoblogaeth o 1,562,828 yn 2007, Bursa yw dinas bedwaredd fwyaf Twrci sydd hefyd yn un o ganolfannau diwylliannol a diwydiannol pwysicaf y wlad honno.
![]() | |
Math | bwrdeistref fetropolitan Twrci, dinas fawr, dinas â miliynau o drigolion, metropolitan municipality, dinas ![]() |
---|---|
Poblogaeth | 2,901,396 ![]() |
Sefydlwyd | |
Cylchfa amser | UTC+03:00, EET ![]() |
Gefeilldref/i | Darmstadt, Denizli, Kars, Multan, Oulu, Sofia, Tiffin, Ohio, Kairouan, Gogledd Nicosia, Anshan, Bitola, Ceadîr-Lunga, Kyzylorda, Mascara, Algeria, Kulmbach, Pleven, Plovdiv, Prishtina, Tirana, Košice, Vinnytsia, Van, Rabat, Bakhchysarai, Oskemen, Herzliya, Mykolaiv, Sarajevo, Xanthi, Simferopol, Tlemcen, Chiang Mai, Mogilev ![]() |
Iaith/Ieithoedd swyddogol | Tyrceg ![]() |
Daearyddiaeth | |
Sir | Bursa, Hüdavendigâr Vilayet ![]() |
Gwlad | ![]() |
Arwynebedd | 11,043 km² ![]() |
Uwch y môr | 100 ±1 metr ![]() |
Cyfesurynnau | 40.1913°N 29.0805°E ![]() |
Cod post | 16000 ![]() |
![]() | |

Gorwedd Bursa ar lethrau gogledd-orllewinol cadwyn o fynyddoedd a ddominyddir gan Fynydd Uludağ, yn agos i lan Môr Marmara, i'r gogledd. Ei llysenw gan y Tyrciaid yw "Yeşil Bursa" ("Bursa Werdd"), oherwydd y toau teiliau gwyrdd niferus sydd i'w cael yn yr hen ddinas. Mae rheilffyrdd yn ei chysylltu ag Istanbul, Ankara ac Izmir.
Alltudiwyd yr arweinydd Algeriaidd Abd El-Kader i'r ddinas yn 1852. Yn nes ymlaen, symudodd i Damascus.
Oriel golygu
Dolenni allanol golygu
- (Twrceg) Cyngor Bursa