Equus (drama)

(Ailgyfeiriad o Equus)

Drama a ysgrifennwyd ym 1973 gan Peter Shaffer yw Equus. Mae'r ddrama'n adrodd hanes seiciatrydd sy'n ceisio trin dyn ifanc sydd â diddordeb crefyddol/rhywiol patholegol gyda cheffylau.

Equus
Enghraifft o'r canlynolgwaith llenyddol Edit this on Wikidata
AwdurPeter Shaffer Edit this on Wikidata
IaithSaesneg Edit this on Wikidata
Prif bwncceffyl Edit this on Wikidata
Dyddiad y perff. 1af1973 Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Poster yn hysbysebu'r ddrama Equus gyda Daniel Radcliffe
Erthygl am y ddrama yw hon. Am y genws Equus, gan gynnwys y ceffyl, gweler yma.

Cafodd Shaffer ei ysbrydoli i ysgrifennu Equus pan glywodd am drosedd lle'r oedd person 17 oed wedi dallu chwech o geffylau mewn tref fechan ger Llundain. Bwrodd ati i ysgrifennu hanes dychmygol o'r hyn a allai fod wedi achosi'r fath achos, heb iddo wybod unrhyw ffeithiau neu wybodaeth pellach am y drosedd. Mae'r ddrama ei hun yn rhyw fath o stori dditectif, wrth i seiciatrydd y bachgen, Dr. Martin Dysart, geisio deall gweithredodd y bachgen tra'n brwydro gyda'i syniad ei hun o hunan-werth.