Peter Shaffer
Dramodydd ac awdur Seisnig oedd Syr Peter Levin Shaffer (15 Mai 1926 – 6 Mehefin 2016). Enillodd nifer o wobrau am ei waith, a ffilmiwyd nifer o'i ddramâu.
Peter Shaffer | |
---|---|
Ganwyd | 15 Mai 1926 Lerpwl |
Bu farw | 6 Mehefin 2016 Swydd Corc |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig, Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | sgriptiwr, dramodydd, dramodydd, beirniad llenyddol, llenor |
Swydd | cymrawd |
Adnabyddus am | Black Comedy |
Gwobr/au | Gwobr yr Academi am Ysgrifennu Gorau, Sgript Addasedig, CBE, Marchog Faglor, Cymrawd o'r Gymdeithas Frenhinol a Llenyddol, honorary doctor of the University of Bath |
llofnod | |
Fe'i ganwyd yn Lerpwl, yn fab i Reka (née Fredman) a Jack Shaffer. Ei frawd gefell oedd y dramodydd Anthony Shaffer.
Cafodd ei addysg yn yr Ysgol Sant Pawl.
Detholiad o'i waith
golygu- The Salt Land (1954), ei ddrama gyntaf, a gyflwynwyd ar deledu'r BBC.
- Balance Of Terror (1957)
- The Prodigal Father (1957)
- Five Finger Exercise (1958)
- The Private Ear a The Public Eye (1962)
- The Establishment (1963)
- The Merry Roosters Panto (1963)
- The Royal Hunt of the Sun (1964) sy'n edrych ar oresgyniad Periw gan y Sbaenwyr. Cafodd ei wneud yn ffilm ym 1969.
- Black Comedy/White Lies (1967)
- The Battle of Shrivings (1970)
- Equus (1973), yn seiliedig ar hanes bachgen go iawn a ddallodd nifer o geffylau. Enillodd Wobr Tony ym 1975 am y Ddrama Orau a chafodd ei wneud yn ffilm ym 1977.
- Amadeus (1979) sy'n adrodd hanes ffuglennol am sut y ceisiodd cyfansoddwr y llys Antonio Salieri ddinistrio Wolfgang Amadeus Mozart am ei fod yn genfigennus ohono. Enillodd Wobr Tony am y Ddrama Orau ym 1981, a chafodd ei throsi'n ffilm ym 1984, Amadeus. Enillodd y ffilm wyth o Wobrau'r Academi gan gynnwys y Ffilm Orau.
- Black Mischief (1983)
- Yonadab (1985)
- Lettice and Lovage (1987)
- This Savage Parade (1987)
- Whom Do I Have The Honour Of Addressing? (1990)
- The Gift of the Gorgon (1992)