Roedd Eric Ronald Griffiths (31 Hydref 194029 Ionawr 2005) yn gitarydd gyda'r aelodau gwreiddiol o 'The Quarrymen' nes iddo adael y grŵp yn haf 1958.

Eric Griffiths
Ganwyd31 Hydref 1940 Edit this on Wikidata
Dinbych Edit this on Wikidata
Bu farw29 Ionawr 2005 Edit this on Wikidata
Caeredin Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethcerddor, gitarydd Edit this on Wikidata

Bywyd cynnar

golygu

Fe'i anwyd yn Ninbych, i rieni yn wreiddiol o Lerpwl. Dychwelodd mam Eric i Lerpwl yn 1945 i fyw gyda'i rhieni ar ôl marwolaeth ei gŵr fel peilot gyda'r Llu Awyr Brenhinol yn yr Ail Ryfel Byd. Yn 1950 symudodd y teulu i Halewood Drive, Woolton ac yn 11 oed, enillodd Griffiths ysgoloriaeth i Ysgol Uwchradd Quarry Bank lle y cyfarfu â John Lennon, Pete Shotton a Rod Davis.

Bywgraffiad a Gyrfa

golygu

Y Quarrymen

golygu

Roedd y pedwar bachgen yn yr un Tŷ yn yr ysgol ac yn rhannu diddordeb mewn cerddoriaeth Americanaidd; yn enwedig sgiffl. Mynychodd Lennon a Griffiths rai gwersi gitâr ond fe'u canfuwyd yn rhy araf i ddysgu a gadawsant y gwersi pan oedd mam Lennon yn eu dysgu i chwarae cordiau haws ar y banjo. Byddai'r ddau fachgen yn chwarae triwant er mwyn ymarfer yng nghartref Griffiths tra roedd ei fam yn y gwaith. Roedd Griffiths hefyd wedi dod yn ffrindiau â drymiwr o'r enw Colin Hanton, a byddai hefyd yn ymarfer gydag ef. Pan ffurfiodd Lennon 'The Quarry Men' gyda Shotton a Davis, gwahoddwyd Griffiths i ychwanegu ei sgiliau sylfaenol oherwydd fod ganddo gitâr newydd.

Gadawodd Griffiths yr ysgol yn Haf 1957 ar ol llwyddo mewn arholiadau TAG mewn Saesneg, Mathemateg a Hanes a daeth yn brentis peirianneg tra'n parhau i chwarae fel gitarydd arweiniol yn y band. Pan ymunodd Paul McCartney â The Quarrymen, roedd yn anelu at fod yn gitarydd arweiniol, ond roedd ei anfodlonrwydd gyda'i un ymgais gyhoeddus wedi rhoi diwedd ar hynny. Penderfynodd aelodau eraill y band nad oedd McCartney na Griffiths yn gitârwyr arweiniol addas, felly pan ymunodd George Harrison â'r band, awgrymwyd bod Griffiths yn prynu gitar fas drydanol a mwyhadur, ond ni allai fforddio gwneud hynny. Ni wahoddwyd Griffiths i dŷ McCartney ar gyfer yr ymarfer nesaf a phan y bu iddo eu ffonio trwy gyd-ddigwyddiad yn ystod y sesiwn ymarfer, gorfu i'r drymiwr Colin Hanton roi gwybod iddo nad oedd bellach yn aelod o'r band.

Gwasanaeth gyda'r Llynges

golygu

Penderfynodd Griffiths roi'r gorau i beirianneg hefyd ac ymunodd â'r Llynges Fasnachol fel swyddog llywio. Parhaodd i gyfarfod â'i hen ffrindiau o'r band pan oedd ar wyliau ond collodd gysylltiad â Lennon a McCartney ar ôl iddynt recordio am y tro cyntaf gydag EMI.

Priodas a'r blynyddoedd yn gwasanaethu yn y carchar

golygu

Gadawodd Griffiths y llynges ym 1964 a phriododd a Relda yn Eglwys y Plwyf yn Woolton. Treuliodd y 30 mlynedd nesaf yn gweithio yn y gwasanaeth carchardai yn moderneiddio arferion gweithio'r carcharorion. Ym 1972, gadawodd y Gwasanaeth Carchar yn Lloegr i ymuno â Gwasanaeth Carchardai'r Alban a symudodd i Gaeredin gyda'i wraig a'u mab.

Gyrfa fel sychlanhawr

golygu

Ym 1994, gadawodd y Gwasanaeth Carchardai i ganolbwyntio ar redeg busnes y teulu, cadwyn o sychlanhawyr.

Aduniad y Quarrymen

golygu

Ym mis Ionawr 1997, dychwelodd Griffiths i Lerpwl i gwrdd â rhai o gyn-aelodau'r band yn nathliad 40 mlynedd y 'Cavern Club'. Roedd holl aelodau gwreiddiol y 'Quarrymen' yno ac ar y noson honno rhoddasant berfformiad anhygoel byrfyfyr gydag offerynnau benthyg ar y llwyfan. Pan gafodd y band ei perswadio i ail-ffurfio ar gyfer gig elusen yn Woolton ym mis Gorffennaf 1997, bu'n rhaid i Griffiths brynu gitâr ac ail-ddysgu ychydig o gordiau.

Roedd yr aduniad yn llwyddiant ysgubol a bu galw am CD. Penderfynodd Griffiths y dylai'r band diwygiedig recordio albwm a rhyddhawyd 'John Lennon's Original Quarrymen - Get Back Together' ym mis Medi 1997. Yna, bu Griffiths yn teithio'n helaeth gyda'r 'The Quarrymen' tan ei berfformiad olaf yng Ngwesty SAS Royal Garden, Trondheim, Norwy ar 27 Tachwedd 2004. Roedd wedi bod yn cwyno am boen cefn ac aeth mor boenus fel y bu rhaid iddo gael archwiliad ysbyty lle y darganfuwyd ei fod yn dioddef o ganser y pancreas.

Marwolaeth

golygu

Bu farw yn ei gartref yng Nghaeredin o ganser y pancreas ar 29 Ionawr 2005.[1] Mae ei wraig, Relda, a'i dri mab, Tim, Matthew a Daniel wedi goroesi.

Cyfeiriadau

golygu
  1. Laing, Dave (3 February 2005). "Obituary: Eric Griffiths". Theguardian.com. Cyrchwyd 3 Rhagfyr 2017.

Dolenni allanol

golygu