Erispoe

brenin Llydaw

Brenin Llydaw oedd Erispoë (bu farw Tachwedd 857).

Erispoe
Ganwyd9 g Edit this on Wikidata
Armorica Edit this on Wikidata
Bu farw857 Edit this on Wikidata
Talenseg Edit this on Wikidata
Galwedigaethteyrn Edit this on Wikidata
Swyddking of Brittany Edit this on Wikidata
TadNevenoe Edit this on Wikidata
PriodMarmohec Edit this on Wikidata
Plantunknown daughter of Erispoe Edit this on Wikidata
PerthnasauGurvand Edit this on Wikidata

Roedd Erispoe yn fab i Nevenoe, brenin Llydaw, ac ar farwolaeth ei dad yn 851 dilynodd ef ar yr orsedd. Yn fuan wedyn, ar 22 Awst 851 ym Mrwydr Jengland gerllaw Vilaine, enillodd fuddugoliaeth fawr dros Siarl Foel, brenin y Ffranciaid Gorllewinol. Yn fuan wedi'r frwydr gwnaeth Siarl gytundeb heddwch ag Erispoe, yn cydnabod annibyniaeth Llydaw a hawl Llydaw ar Roazhon, Naoned a Retz,

Yn 853, anrheithiwyd Naoned gan y Normaniaid, a bu Erispoe yn ymladd yn eu herbyn, gan eu gyrru allan erbyn tua 855.

Ym mis Tachwedd 857, llofruddiwyd ef ger allor eglwys gan ei gefnder Salaun gyda chymorth Alcmar. Roedd yn briod a Marmohec, ac roedd ganddynt o leiaf ddau blentyn, mab o'r enw Cynan a merch. Dilynwyd ef ar yr orsedd gan ei lofrudd, Salaun.

Gweler

golygu
Rhagflaenydd:
Nevenoe
Brenin Llydaw
 

851857
Olynydd:
Salaun