Nevenoe

brenin Llydaw gyfan

Roedd Nevenoe, Ffrangeg: Nominoë, (bu farw 7 Mawrth 851), yn frenin cyntaf Llydaw o 826 hyd ei farwolaeth. Yn ddiweddarach newidiodd y llinach eu teil i Ddugiaid Llydaw yn hytrach na galw eu hunain yn frenhinoedd. Gelwir ef yn Tad ar Vro gan genedlaetholwyr Llydaw.

Nevenoe
"Llw Nevenoe". Darlun gan James Joseph Jacques Tissot (1836–1902) yn Barzaz Breiz.
Ganwydc. 800 Edit this on Wikidata
Armorica Edit this on Wikidata
Bu farw7 Mawrth 851 Edit this on Wikidata
Vendôme Edit this on Wikidata
DinasyddiaethKingdom of Brittany Edit this on Wikidata
Galwedigaethteyrn Edit this on Wikidata
PlantErispoe Edit this on Wikidata

Cafodd ei enwi yn Ddug Llydaw gan Louis Dduwiol, Brenin y Ffranciaid. Parhaodd Nevenoe yn deyrngar i Louis hyd nes i Louis farw yn 841. Dilynwyd ef gan ei fab, Siarl Foel, ond nid oedd y berthynad rhyngddo ef a Nevenoe cystal. Gwrthododd Nevenoe dyngu llŵ o ffyddlondeb i'r brenin newydd, a chyhoeddodd annibyniaeth Llydaw. Ymosododd Siarl ar Lydaw, ond gorchfygwyd ef ym Mrwydr Ballon, ac yn 846 bu raid iddo gydnabod annibyniaeth Llydaw.

Bu Nevenoe farw yn 851, a dilynwyd ef gan ei fab, Erispoe.

Rhagflaenydd:
dim
Brenin Llydaw

845851
Olynydd:
Erispoe