Chwaraewr rygbi'r undeb i dim cenedlaethol Cymru oedd Ernest "Ernie" Edward George (187128 Tachwedd 1952).[1] Chwaraeodd dros nifer o glybiau yn ystod ei yrfa, ond mae'n cael ei gysylltu'n bennaf a Phontypridd a Chaerdydd. Cafodd dri chap dros Gymru rhwng 1895 a 1896.

Ernie George
Ganwyd1871 Edit this on Wikidata
Llanilltud Fawr Edit this on Wikidata
Bu farw28 Tachwedd 1952 Edit this on Wikidata
Caerdydd Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethchwaraewr rygbi'r undeb Edit this on Wikidata
Chwaraeon
Tîm/auClwb Rygbi Caerdydd, Tîm rygbi'r undeb cenedlaethol Cymru, Clwb Rygbi Cymry Llundain, Plymouth Albion R.F.C., Clwb Rygbi Abertawe, Clwb Rygbi Pontypridd Edit this on Wikidata

Gyrfa rygbi

golygu

Dechreuodd George, a oedd yn saer maen o ran ei alwedigaeth, ei yrfa rygbi gyda chlwb Llanilltud Fawr,[2] ond aeth oddi yno i chwarae i Bontypridd. Yn ystod ei gyfnod gyda Phontypridd y cafodd ei ddewis gyntaf i chwarae dros dim cenedlaethol Gymru. Chwaraeodd yn y pac yn y gem yn erbyn yr Alban fel rhan o Bencampwriaeth y Pedair Gwlad 1895. Roedd George yn un o ddau flaenwr oedd yn chwarae dros Gymru am y tro cyntaf yn y gem honno; Tom Pook o Gasnewydd oedd y llall. Bu'n gem agos a orffennodd gyda Chymru yn colli o 4-5, ac yn wynebu gem olaf yn erbyn Iwerddon i benderfynu pa un ohonynt fyddai'n cael y llwy bren. Cafodd George ei ddewis eto ar gyfer y gem yn erbyn Iwerddon ym Mharc yr Arfau. Roedd honno'n gem agos hefyd, gyda Chymru yn ennill am iddyn nhw lwyddo i drosi eu hunig gais. Chwaraeodd George un gem ryngwladol arall, sef gem agoriadol Pencampwriaeth 1896 oddi cartref yn erbyn Lloegr. Cafodd Cymru grasfa, gyda Lloegr yn sgorio saith cais a Chymru'n methu a chroesi'r llinell o gwbl. Canlyniad hynny oedd newid chwech o'r wyth blaenwr ar gyfer y gem nesaf. Roedd George ymhlith y chwech, ac felly y daeth ei yrfa ryngwladol i ben. 

Gemau rhyngwladol a chwaraewyd

golygu

Llyfryddiaeth

golygu
  • Godwin, Terry (1984). The International Rugby Championship 1883-1983. London: Willows Books. ISBN 0-00-218060-X.
  • Griffiths, Terry (1987). The Phoenix Book of International Rugby Records. London: Phoenix House. ISBN 0-460-07003-7.
  • Smith, David; Williams, Gareth (1980). Fields of Praise: The Official History of The Welsh Rugby Union. Cardiff: University of Wales Press. ISBN 0-7083-0766-3.

Cyfeiriadau

golygu
  1. Ernie George player profile scrum.com
  2. The Major Influence Walesonline 23-01-08