Ernst Julius Öpik
cyfansoddwr a aned yn 1893
(Ailgyfeiriad o Ernst Öpik)
Roedd Ernst Julius Öpik (23 Hydref 1893 – 10 Medi 1985) yn seryddwr ac astroffisegydd o fri o Estonia, a dreuliodd y rhan olaf o'i yrfa (1948–1981) yn Arsyllfa Armagh, Gogledd Iwerddon. Roedd yn daid i'r gwleidydd Cymreig Lembit Opik. Roedd ei ferch, Helgi Öpik, yn academydd ym Mhrifysgol Abertawe..
Ernst Julius Öpik | |
---|---|
Ganwyd | Ernst Julius Öpik 22 Hydref 1893 Kunda, Unol Daleithiau America |
Bu farw | 10 Medi 1985 Bangor |
Dinasyddiaeth | Estonia, Ymerodraeth Rwsia |
Alma mater | |
Galwedigaeth | seryddwr, astroffisegydd, cyfansoddwr, gwyddonydd, academydd |
Cyflogwr |
|
Plant | Uuno Öpik, Helgi Öpik |
Perthnasau | Lembit Öpik |
Gwobr/au | Medal Aur y Gymdeithas Seryddol Frenhinol, Medal Bruce, J. Lawrence Smith Medal, Leonard Medal |
Cafodd ei addysg ym Mhrifysgol Moscow ac enilloedd ei ddoethuriaeth ym Mhrifysgol Tartu, yn Estonia.
Mae'n enwog yn bennaf am ei waith ar gomedau. Yn 1932 daeth allan â'r ddamcaniaeth fod comedau yng Nghysawd yr Haul yn ymffurfio mewn cwml o lwch a mater arall y tu hwnt i gylchdro'r blaned gorrach Plwton. Enwir y cwmwl hwnnw yn Gwmwl Oort (neu Cwmwl Öpik-Oort) er ei anrhydedd.