Peidiwch â chymysgu Esgobaeth Mynyw ag Esgobaeth Mynwy, sy'n esgobaeth yr Eglwys yng Nghymru.

Ordeiniwr Esgobaeth Mynyw (Saesneg: Diocese of Menevia), sy'n esgobaeth yr Eglwys Gatholig Rufeinig yn ardal Caerdydd, yw Esgob Mynyw.

Mae'r esgobaeth yn gweinyddu ardal o 9,716 km², sy'n cynnwys, yn fras, Dinas a Sir Abertawe, Castell-nedd a Phort Talbot, a siroedd traddodiadol Cymru Sir Frycheiniog, Ceredigion, Sir Gaerfyrddin, Sir Benfro a Sir Faesyfed. Lleolir yr Esgobaeth yn Abertawe.

Codwyd Ficeriaeth Apolistig Cymru (Saesneg: Vicariate Apostolic of Wales) i statws esgobaeth ar 12 Mai, 1898.

Rhestr Esgobion Esgobaeth Mynyw, Cymru

golygu
Tymor Deiliad Nodau
Ficeriaeth Apostolig Cymru
4 Gorffennaf 189514 Mai 1898 Francis Mostyn, Ficer Apostolig Cymru Offeiriaid; daeth yn Esgob Mynyw
Esgobaeth Mynyw
14 Mai 18987 Mawrth 1921 Francis Mostyn, Esgob Mynyw O hyn ymlaen, Ficer Apolistig; swyddogwyd yn Archesgob Caerdydd
21 Mehefin 192613 Mawrth 1935 Francis J. Vaughan Offeiriaid; ordeinwyd 8 Medi 1926; bu farw yn ei swyddogaeth
10 Awst 193520 Mehefin 1940 Michael McGrath Offeiriaid; ordeinwyd 24 Medi, 1935; swyddogwyd yn Archesgob Caerdydd
15 Mawrth 194126 Ebrill 1946 Daniel Hannon Offeiriaid; ordeinwyd 1 Mai 1941; bu farw yn ei swyddogaeth
8 Chwefror 194716 Mehefin 1972 John Petit Offeiriaid; 25 Mawrth 1947; ymddeolodd
16 Mehefin 19725 Chwefror 1981 Langton Fox Esgob cynorthwyol Mynyw; ymddeolodd
5 Chwefror 198125 Mawrth 1983 John Aloysius Ward Esgob cynorthwyol Esgob Mynyw; swyddogwyd yn Archesgob Caerdydd
13 Hydref 198312 Chwefror 1987 James Hannigan Offeiriaid Mynyw; ordeinwyd 23 Tachwedd 1983; swyddogwyd yn Esgob Wrecsam
12 Chwefror 198712 Mehefin 2001 Daniel Mullins Esgob cynorthwyol Caerdydd; ymddeolodd
12 Mehefin 200116 Hydref 2008 John Jabalé Esgob cynorthwyol Mynyw; ymddeolodd
16 Hydref 200811 Gorffennaf 2019 Tom Burns ymddeolodd
11 Gorffennaf 201927 Ebrill 2022 Gwag
27 Ebrill 2022 – presennol Mark O'Toole

Dolenni allanol

golygu