Mae'r esgyrnynnau (a elwir hefyd yn esgyrnynnau clywedol) yn dri asgwrn yn y glust ganol. Maent ymhlith yr esgyrn lleiaf yn y corff dynol. Maent yn gwasanaethu i drosglwyddo seiniau o'r awyr i'r cochlea. Byddai absenoldeb yr esgyrnynnau clywedol yn golygu colli clyw cymedrol neu ddifrifol. Mae'r term "esgyrnyn" yn golygu "asgwrn bach". Er y gallai'r term gyfeirio at unrhyw asgwrn bach yn unrhyw fan yn y corff, fel arfer mae'n cyfeirio at esgyrn bach y glust. Weithiau bydd yr esgyrn yn cael eu galw'n osigl o'r Lladin am fân asgwrn Ossicle[1].

Esgyrnyn
Enghraifft o'r canlynolbone organ type, dosbarth o endidau anatomegol Edit this on Wikidata
Mathasgwrn afreolaidd Edit this on Wikidata
Rhan oy glust ganol Edit this on Wikidata
Cysylltir gydadrwm y glust, Eustachian tube Edit this on Wikidata
Yn cynnwysmorthwyl y glust, Eingion y glust, Gwarthol y glust Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Strwythur golygu

Mae morthwyl y glust yn cymalu a'r eingion trwy'r cymal eingion a morthwyl ac mae'n gysylltiedig â drwm y glust.

Mae'r eingion y glust wedi ei gysylltu yn fras a'r morthwyl. Mae'n derbyn dirgryniadau o'r morthwyl yn ochrol ac yn eu trosglwyddo i'r gwarthol yn ganolog.

Mae gwarthol y glust yn gorwedd ar y ffenestr hirgrwn lle mae wedi'i gysylltu â gewyn anwlar. Mae gan y gwarthol sylfaen sy'n gorffwys ar y ffenestr hirgrwn a phen sy'n ymgymalu gyda'r eingion. Maent yn cael eu cysylltu gan aelodau blaen ac ôl. Mae'r gwarthol yn cyfuno â'r eingion trwy gydran yr eingion a'r gwarthol. Y gwarthol yw'r asgwrn lleiaf yn y corff dynol, ac mae'n mesur oddeutu 3 x 2.5mm, mae ychydig yn fwy ar hyd y rhychwant y pen. Dyma'r asgwrn lleiaf yn y corff.

 
Lleoliad yr esgyrnynnau: a drwm y glust (coch); b morthwyl; c eingion; d gwarthol; e y glust ganol

Swyddogaeth golygu

Wrth i donnau sain dirgrynu drwm y glust mae'r esgyrnyn agosaf, y morthwyl, sydd ynghlwm iddi, hefyd yn dechrau dirgrynu. Yna mae'r morthwyl yn trosglwyddo'r dirgryniadau, trwy'r eingion i'r gwarthol ac felly yn y pen draw i bilen y ffenestr hirgrwn, yr agoriad i'r y glust fewnol.

O'r ffenestr hirgrwn bydd dirgryniadau sain yn cael eu trosglwyddo i'r cochlea sydd yn labyrinth llawn hylif. Fel sydd i brofi trwy gosod pen dan dwr, dydy sŵn ddim yn trafaelio yn dda trwy hylif.

Mae'r esgyrnynnau yn rhoi mantais fecanyddol i drwm y glust trwy gamau gweithredu trosol yn ardal dosbarthu grym. Byddai'r dirgryniadau o ganlyniad yn llawer gwannach pe bai'r tonnau sain yn cael eu trosglwyddo'n uniongyrchol o'r glust allanol i'r ffenestr hirgrwn. Mae'r gostyngiad hwn yn yr ardal dosbarthu grym yn caniatáu cynnydd mawr yn y pwysau i drosglwyddo'r rhan fwyaf o'r ynni sŵn i'r hylif. Bydd y pwysau cynyddol yn cywasgu'r hylif a geir yn y cochlea gan drosglwyddo'r ysgogiadau. Felly, mae presenoldeb yr esgyrnynnau i ganolbwyntio grym y dirgryniadau yn gwella sensitifrwydd i sain ac yn ffurf o gyfatebiad rhwystro.

Perthnasedd clinigol golygu

O bryd i'w gilydd, mae'r cymalau rhwng yr esgyrnynnau yn dod yn anhyblyg gan achosi colli clyw[2]

Cyfeiriadau golygu

  1. "Online Etymology Dictionary". etymonline.com.
  2. CIG Cymru Anomaleddau’r glust a cholled clyw[dolen marw] adalwyd 15 Chwefror 2018