Eingion y glust

Mae eingion y glust yn un o'r esgyrnynnau. Mae'n asgwrn bach siâp eingion yn y glust ganol sy'n cysylltu â morthwyl y glust ar un ochr a gwarthol y glust efo'r llall. Mae'n trosglwyddo'r dirgryniadau sŵn o'r morthwyl ac yn eu trosglwyddo i'r gwarthol. Weithiau bydd yr asgwrn yn cael ei alw'n incws o'r Lladin am eingion incus[1].

Eingion y glust dde, ochr ôl a blaen; 1: corff - 2: wyneb cymalol - 3: cangen lorweddol - 4: cangen fertigol - 5: cambwl lensaidd

StrwythurGolygu

Yr eingion yw'r ail o'r esgyrnynnau, tri asgwrn yn y glust ganol sy'n gweithredu i drosglwyddo sain. Mae ganddi aelod hir ac aelod byr sy'n ymwthio o'i bwynt cymalu â'r morthwyl.

SwyddogaethGolygu

Mae'r eingion yn un o dri esgyrnyn yn y glust ganol sy'n trosglwyddo sain o'r drwm y glust i'r glust fewnol. Mae wedi ei gysylltu yn fras a'r morthwyl. Mae'n derbyn dirgryniadau o'r morthwyl yn ochrol ac yn eu trosglwyddo i'r gwarthol yn ganolog.

HanesGolygu

Mae sawl ffynhonnell yn priodoli darganfyddiad eingion y glust i'r anatomegydd a'r athronydd Alessandro Achillini. Mae'r disgrifiad ysgrifenedig cyntaf o'r morthwyl gan Berengario da Carpi yn ei lyfr Commentaria super anatomia Mundini (1521)[2]. Disgrifiodd llyfr Niccolo Massa Liber introductorius anatomiae[3] yr eingion mewn ychydig mwy o fanylder ond roedd ef yn disgrifio'r asgwrn fel ail forthwyl. Andreas Vesalius, yn ei lyfr De humani corporis fabrica oedd y cyntaf i gymharu siâp yr asgwrn i eingion, gan rhoi ei enw cyfredol iddi.[4] . Ym 1615 honnodd Pieter Paaw bod aelod hir yr eingion yn asgwrn ar wahân ac yn bedwerydd esgyrnyn[5]

CyfeiriadauGolygu

  1. Drake, Richard L.; Vogl, Wayne; Tibbitts, Adam W.M. Mitchell; illustrations by Richard; Richardson, Paul (2005). Gray's anatomy for students. Philadelphia: Elsevier/Churchill Livingstone. ISBN 978-0-8089-2306-0.
  2. Jacopo Berengario da Carpi,Commentaria super anatomia Mundini, Bologna, 1521. https://archive.org/details/ita-bnc-mag-00001056-001
  3. Niccolo Massa, Liber introductorius anatomiae, Venice, 1536. p.166. http://reader.digitale-sammlungen.de/en/fs1/object/display/bsb10151904_00001.html
  4. O'Malley, C.D. Andreas Vesalius of Brussels, 1514-1564. Berkeley: University of California Press, 1964. p. 121
  5. Graboyes, Evan M.; Chole, Richard A.; Hullar, Timothy E. (September 2011). "The Ossicle of Paaw". Otology & Neurotology 32 (7): 1185–1188. doi:10.1097/MAO.0b013e31822a28df. PMC 3158805. http://www.pubmedcentral.nih.gov/articlerender.fcgi?tool=pmcentrez&artid=3158805.