Mae gwarthol y glust yn un o'r esgyrnynnau. Mae'n asgwrn bach siâp gwarthol yn y glust ganol sy'n cysylltu ag eingion y glust ar un ochr a'r ffenestr hirgrwn efo'r llall. Mae'n trosglwyddo'r dirgryniadau sŵn o'r eingion ac yn eu trosglwyddo i'r ffenestr hirgrwn. Weithiau bydd yr asgwrn yn cael ei alw'n stapes yr enw Lladin am warthol.[1]

Gwarthol y glust
Enghraifft o'r canlynoldosbarth o endidau anatomegol Edit this on Wikidata
Mathesgyrnyn, endid anatomegol arbennig, asgwrn Edit this on Wikidata
Rhan oesgyrnyn Edit this on Wikidata
Cysylltir gydaEingion y glust, oval window, stapedius muscle Edit this on Wikidata
Yn cynnwyshead of stapes, anterior limb of stapes, posterior limb of stapes, base of stapes Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Strwythur golygu

Y gwarthol yw'r drydydd asgwrn o'r esgyrnynnau yn y glust ganol. Mae'r asgwrn ar siâp gwarthol. Mae'n gorwedd ar y ffenestr hirgrwn lle mae wedi'i gysylltu â gewyn anwlar. Mae gan y gwarthol sylfaen sy'n gorffwys ar y ffenestr hirgrwn a phen sy'n ymgymalu gyda'r eingion. Maent yn cael eu cysylltu gan aelodau blaen ac ôl. Mae'r gwarthol yn cyfuno â'r eingion trwy gydran yr eingion a'r gwarthol. Y gwarthol yw'r asgwrn lleiaf yn y corff dynol, ac mae'n mesur oddeutu 3 x 2.5mm, mae ychydig yn fwy ar hyd y rhychwant y pen.

 
1 gwasgfa hir; 2 cnap lensaidd; 3 pen; 4 gwasgfa flaenorol; 5 gwasgfa ôl; 6 sylfaen; 7 cyhyryn gwarthol; 8 codiad pyramidaidd; 9 ffenestr hirgrwn

Swyddogaeth golygu

Mae'r gwarthol yn un o dri esgyrnyn yn y glust ganol sy'n trosglwyddo sain o drwm y glust i'r glust fewnol. Mae'n derbyn dirgryniadau o'r eingion ac yn eu trosglwyddo i'r ffenest hirgrwn, agoriad wedi'i orchuddio â philen yn y glust fewnol.

Perthnasedd clinigol golygu

Mae sglerosis y glust yn glefyd cynhenid neu ddigymell a nodweddir gan ail modelu annormal esgyrn yn y glust fewnol. Yn aml, mae hyn yn achosi'r gwarthol i lynu wrth y ffenestr hirgrwn, sy'n rhwystro ei allu i gynnal sain, ac mae'n achosi colled clyw. Mae sglerosis y glust glinigol i'w weld mewn tua 1% o bobl, er ei bod yn fwy cyffredin mewn ffurfiau nad ydynt yn achosi colli clyw amlwg. Mae sglerosis y glust yn fwy tebygol mewn pobl ifanc a menywod. Dwy driniaeth gyffredin yw stapedectomi, lle defnyddir llawdriniaeth i waredu'r gwarthol a'i gyfnewid a phrosthesis artiffisial, a stapedotomi, lle rhoddi'r twll bach yn sylfaen y gwarthol cyn mewnosod prosthesis artiffisial i'r twll hwnnw.[2] :661

Hanes golygu

Honnir yn gyffredin bod yr esgyrn gwarthol wedi eu darganfod gan yr athro Giovanni Filippo Ingrassia ym 1546 ym Mhrifysgol Napoli.[3] Mae hynny yn ddadleuol, gan fod disgrifiad Ingrassia wedi'i gyhoeddi wedi ei farwolaeth ym 1603 yn ei sylwebaeth anatomeg In Galeni librum de ossibus doctissima et expectatissima commentaria. Yr anatomegydd Sbaenig Pedro Jimeno oedd y cyntaf i gyhoeddi disgrifiad o'r esgyrn yn ei lyfr Dialogus de re medica (1549).[4]

Er bod yr esgyrn yn cael eu galw yn Stapes fel enw Lladin am warthol; doedd y cysyniad o warthol ddim yn gyfarwydd i'r Rhufeiniaid. Daeth gwartholion i Ewrop gyntaf yn y 7g. Cafodd y gair stapes ei fathu yn y cyfnod canoloesol o stapia y Lladin am "i sefyll".[5]

Cyfeiriadau golygu

  1. Drake, Richard L.; Vogl, Wayne; Tibbitts, Adam W.M. Mitchell; illustrations by Richard; Richardson, Paul (2005). Gray's anatomy for students. Philadelphia: Elsevier/Churchill Livingstone. ISBN 978-0-8089-2306-0.
  2. Hall, Arthur C. Guyton, John E. (2005). Textbook of medical physiology (arg. 11th). Philadelphia: W.B. Saunders. ISBN 978-0-7216-0240-0.
  3. Dispenza, F; Cappello, F; Kulamarva, G; De Stefano, A (October 2013). "The discovery of stapes.". Acta Otorhinolaryngologica Italica 33 (5): 357–9. PMC 3825043. PMID 24227905. http://www.pubmedcentral.nih.gov/articlerender.fcgi?tool=pmcentrez&artid=3825043.
  4. Mudry, Albert (April 2013). "Disputes Surrounding the Discovery of the Stapes in the Mid 16th Century". Otology & Neurotology 34 (3): 588–592. doi:10.1097/MAO.0b013e31827d8abc.
  5. Harper, Douglas. "Stapes (n.)". Online Etymology Dictionary. Cyrchwyd 15 Chwefror 2018.