Esoteriaeth

(Ailgyfeiriad o Esoterydd)

Barnau a chredoau cyfrinachol yw esoteriaeth sydd gan amlaf o ddiddordeb i grŵp gyfyngedig. Mae'n cynnwys ystod eang o athroniaethau ac athrawiaethau, sydd yn aml yn cynnwys agweddau crefyddol, goruwchnaturiol, neu ysbrydol.

Geirdarddiad

golygu

Tardda'r gair o'r Roeg, esōterō, sef "mewnol". Roedd yr athronydd a'r mathemategwr Pythagoras yn darlithio o tu ôl i len. Roedd y rhai oedd yn mynychu ei ddarlithoedd ond oedd heb ganiatâd i weld ei wyneb yn ddisgyblion ecsoterig (allanwyr), a'r rhai oedd yn cael gweld ei wyneb yn ddisgyblion esoterig. Mabwysiadodd Aristoteles yr un dermau am ei ddisgyblion.[1]

Gweler hefyd

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. Rockwood, Camilla (gol.). Brewer's Dictionary of Phrase and Fable, 18fed argraffiad (Caeredin, Chambers, 2009), t. 443.